'Cyfle unwaith mewn oes' i bobl ifanc Powys i wirfoddoli yn y Tour de France

Tour de France 25

Mae pobl ifanc sy'n byw ym Mhowys yn cael eu hannog i wirfoddoli yn Tour de France 2027 wrth i'r ras basio drwy'r sir.

Bydd un o ddigwyddiadau beicio enwocaf y byd yn teithio drwy Bowys ar 4 Gorffennaf 2027, a bydd angen tua 1,000 o wirfoddolwyr yng Nghymru i helpu gyda thrydydd cymal ras y dynion ar y diwrnod hwnnw.

Dyma'r tro cyntaf yn hanes y ras y bydd cymal cyfan yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl yng Nghymru.

Bydd y cymal yn dechrau yn Y Trallwng ac yn teithio i lawr drwy'r canolbarth a'r Cymoedd, cyn gorffen yng Nghaerdydd.

Bydd Tour de France 2027 yn cychwyn gyda Grand Départ ar draws Prydain rhwng 2 Gorffennaf a 4 Gorffennaf 2027. 

Bydd y tair cymal agoriadol yn ymestyn ar draws yr Alban, Lloegr a Chymru cyn i'r ras symud yn ôl i dir mawr Ewrop.

Bydd angen hyd at 9,000 o wirfoddolwyr ar draws Prydain i helpu i gynnal y Grand Départ.

'Cyfle unwaith mewn oes'

Yn ôl Cyngor Sir Powys, mae gwirfoddoli yn Grand Départ y Tour de France yn "gyfle unwaith mewn oes".

Mae'r cyngor yn annog trigolion Powys i wneud cais i gefnogi trydydd cymal y ras cyn i'r ceisiadau gau ar 1 Medi 2026.

Mae trefnwyr y Tour de France yn arbennig o awyddus i recriwtio pobl ifanc o dan 25 oed, yn ogystal â phobl ag anableddau.

Mae'n rhaid i wirfoddolwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn. 

Mae pobl ifanc sy'n troi'n 16 oed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2027 hefyd yn gymwys i wneud cais.

Bydd gwirfoddolwyr 18 i 25 oed sy'n ymuno fel "JOY Makers" hefyd yn gallu manteisio ar y rhaglen Work Readiness, sy'n cynnig cymorth cyflogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Ffyniannus, bod gwirfoddoli yn y Tour de France yn "gyfle gwych".

"Byddwn yn annog pob cynghorydd i rannu'r wybodaeth hon gyda'u cymunedau a thynnu sylw at y manteision niferus y mae gwirfoddoli yn eu cynnig," meddai.

"Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor amhrisiadwy yw gwirfoddolwyr. Ni fyddai digwyddiadau fel hyn yn gallu cael eu cynnal hebddyn nhw, ac mae dod â'r Tour de France i Bowys yn wir yn gyfle unwaith mewn oes.

"Rwy'n credu hefyd ei bod yn wych y bydd JOY Makers rhwng 18 a 25 oed yn derbyn cymorth cyflogaeth drwy'r rhaglen Work Readiness.

"Rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl ifanc yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn cymryd rhan."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.