Gweddw cyn-olygydd Radio Cymru yn ennill ymgyrch i gael tystysgrif marwolaeth ei gŵr yn y Gymraeg

Aled Glynne Davies

Mae gweddw cyn-olygydd BBC Radio Cymru wedi ennill ymgyrch i gael tystysgrif marwolaeth ei gŵr yn y Gymraeg, fwy na thair blynedd ar ôl ei farwolaeth.

Bu farw Aled Glynne Davies, a oedd yn 65 oed, ar ôl mynd ar goll ar Nos Galan 2022. 

Cafwyd hyd i’w gorff ger Canolfan Hwylio Bae Caerdydd ar 4 Ionawr 2023.

Yn dilyn y cwest gwreiddiol ym mis Tachwedd 2024, daeth y crwner i’r casgliad iddo farw drwy ddamwain ar ôl syrthio i Afon Taf tra'n pasio dŵr, ac iddo foddi.

Tystysgrif Saesneg

Ers hynny, mae ei weddw, Afryl Davies, wedi ymgyrchu i sicrhau bod tystysgrif marwolaeth ei gŵr ar gael yn ddwyieithog ar ôl ei derbyn yn Saesneg yn unig.

Ddydd Iau, cafodd cwest i farwolaeth Mr Davies ei ailglywed gan grwner dwyieithog, Kate Robertson, yn Llys y Crwner Pontypridd.

Dywedodd y crwner, sydd fel arfer yn gwasanaethu Gogledd Cymru, wrth y teulu: "Mae wedi bod yn broses hir ac yn un hynod rwystredig.

"Rwy’n mawr obeithio y cewch gyfle nawr i gofio Aled fel y dyn bonheddig poblogaidd a thalentog ydoedd, ac yn sicr, ar ôl heddiw, gyda’r wybodaeth bod marwolaeth Aled wedi’i chofnodi’n ddwyieithog, fel y byddai ef wedi ei ddymuno."

Er bod tystysgrifau marwolaeth dwyieithog yn cael eu cyhoeddi mewn achosion lle mae marwolaeth wedi’i chofrestru’n ddwyieithog yng Nghymru, cafodd marwolaeth Mr Davies ei chofrestru yn gyntaf yn Saesneg gan swyddfa’r crwner, ac yna’n ddwyieithog.

Dywedodd y crwner: "Cofrestrwyd y farwolaeth yn Saesneg yn unig, gyda thystysgrif marwolaeth yn Saesneg yn unig, gan mai honno a ddarparwyd gyntaf.

"Fy mwriad oedd i farwolaeth Aled gael ei chofrestru’n ddwyieithog, ac roedd tystysgrif marwolaeth ddwyieithog i ddilyn.

"Ni ddigwyddodd hynny."

'Nid camgymeriad yw fy iaith'

Dywedodd Mrs Davies ei bod wedi gofyn dro ar ôl tro am dystysgrif ddwyieithog, ond iddi gael ei gwrthod, gan ei gorfodi i fynd â'r mater i'r Uchel Lys.

"Y cwbl rydw i wedi'i chael yw waliau a rhwystrau," meddai.

"Daeth y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn ôl a dweud na allent roi tystysgrif ddwyieithog i mi oherwydd y byddai'n rhaid iddyn nhw ailgofrestru'r farwolaeth.

"Yna daethon nhw'n ôl, a dyma'r peth mwyaf poenus, gan ddweud y gallen nhw roi'r Gymraeg mewn blwch bach ar y gwaelod mewn llythrennau bach, na fyddwn prin yn gallu eu darllen.

"Roeddwn i'n dal i ddweud wrthyn nhw, ‘ond nid fy mai i yw hyn’ - nid camgymeriad yw fy iaith.

"Beth bynnag, fe wnaethon nhw wrthod a gwrthod a gwrthod, a dyna pam aethon ni i'r Uchel Lys."

Ychwanegodd: "Dyna oedd y dewis olaf.

"Pe na baen ni wedi ennill yr wythnos ddiwethaf, fyddwn i byth, byth yn gallu cael tystysgrif ddwyieithog i Aled, ac mae hynny'n frawychus iawn.

"Yr hyn rydw i wedi'i ddysgu o hyn yw nad oes gennym unrhyw hawliau cyfreithiol i gael tystysgrifau dwyieithog yn gyffredinol, ar gyfer genedigaethau, marwolaethau a phriodasau.

"Does gennym ni ddim hawliau - mae canllawiau ar waith - ond does dim hawl gyfreithiol gennym i'w cael."

Image
Afryl Davies
Afryl Davies

Dywedodd Mrs Davies ei bod yn "wirioneddol ddiolchgar" i AS Gorllewin Caerdydd, Alex Barros-Curtis, a gododd y mater yn y Senedd y llynedd.

Fe gynigiodd y dylai unrhyw dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas yng Nghymru gael ei chyhoeddi'n ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

"Nid oes unrhyw reolau na chyfreithiau sy'n dweud, os ydych yn byw yng Nghymru, neu'n Gymro neu'n Gymraes sy'n byw yn Lloegr, fod gennych hawl i dderbyn tystysgrif o'r fath yn Gymraeg neu'n ddwyieithog," meddai Mr Barros-Curtis ym mis Hydref.

"Dyna'n union ddigwyddodd i un o'm hetholwyr, Afryl Davies.

"Yn anffodus, bu farw gŵr Afryl, Aled. Roedd Aled yn Gymro balch ac yn siaradwr Cymraeg balch, ond ni chafodd ei deulu gopi o'i dystysgrif farwolaeth yn ddwyieithog - dim ond fersiwn Saesneg a gawson nhw."

Dywedodd fod y teulu wedi ysgrifennu llythyrau at y crwner, y cofrestrydd a'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn gofyn am dystysgrif farwolaeth ddwyieithog, ond iddyn nhw gael eu "gwrthod ar bob achlysur".

'Anghyfiawnder'

Wrth siarad cyn y gwrandawiad ddydd Iau, dywedodd yr AS: "Mae penderfyniad Afryl wedi tynnu sylw at yr anghyfiawnder sy'n wynebu teuluoedd Cymraeg eu hiaith sy'n dal i gael eu hamddifadu o'r dewis o dderbyn tystysgrifau marwolaeth yn Gymraeg neu'n ddwyieithog.

"Ni ddylai unrhyw deulu orfod brwydro er mwyn i'w hiaith gael ei thrin â'r un parch.

"Byddaf yn ailgyflwyno fy Mil Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau (Darpariaethau'r Gymraeg) yn ystod y tymor seneddol newydd.

"Rydw i eisoes mewn trafodaethau gyda gweinidogion am y camau nesaf i ailgyflwyno'r newidiadau hyn.

"Mae'r achos dros newid mor gryf ag erioed, ac rydw i'n parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn cael y dewis o dderbyn tystysgrifau yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.