Cymeradwyo cais Portmeirion i gynnal digwyddiadau awyr agored
Mae cais am drwydded i gynnal hyd at bedwar digwyddiad awyr agored y flwyddyn ym mhentref Portmeirion wedi’i gymeradwyo.
Mae Portmeirion yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni gyda digwyddiad Gŵyl Portmeirion.
Roedd cais gan gwmni Portmeirion Limited wedi ei gymeradwyo gan is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Gwynedd ddydd Gwener.
Mae’r drwydded yn ymwneud â chae a maes parcio ger Castell Deudraeth, Portmeirion, sydd ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth.
Bwriad y cais oedd caniatáu i’r cwmni gynnal hyd at bedwar digwyddiad awyr agored bob blwyddyn rhwng mis Mai a mis Medi.
Bydd y digwyddiadau’n cynnwys gweithgareddau fel chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi’i recordio, yn ogystal â gwerthu alcohol ar y safle.
Bydd hawl i werthu alcohol ar y safle ac i chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi’i recordio rhwng 18.00 ac 23.00 ar nosweithiau Gwener a Sadwrn yn ystod y digwyddiadau.
Bydd nifer y digwyddiadau yn cael eu cyfyngu i bedwar mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Doedd dim gwrthwynebiad i’r cais gan yr heddlu, cynllunwyr, y gwasanaeth tân, y tîm bwyd, gwarchod y cyhoedd na’r cyhoedd.
Roedd y dogfennau trwyddedu yn nodi nad oedd gwrthwynebiad i’r cynnig mewn egwyddor, ond bod posibilrwydd y gallai sŵn cerddoriaeth uchel o’r cyngherddau achosi niwsans cyhoeddus i drigolion cyfagos.
Er mwyn osgoi hynny, cafodd amodau rheoli sŵn eu hargymell fel rhan o’r drwydded.
Cytunodd yr ymgeisydd i dderbyn yr amodau rheoli sŵn hyn yn yr amserlen weithredu pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo.
Penblwydd Portmeirion
Cyhoeddwyd ym mis Chwefror y bydd Gŵyl Portmeirion yn cael ei chynnal ger Castell Deudraeth dros bedwar penwythnos, ar 4 ac 11 Gorffennaf a 22 a 29 Awst.
Bydd Syr Bryn Terfel, Côr y Brythoniaid, Gwenno, 9Bach, Bwncath, Melin Melyn, Bob Delyn a'r Ebillion, Pys Melyn a Band Pres Llareggub ymysg y perfformwyr.
Hefyd yno fydd Squeeze a hefyd Jools Holland a'i gerddorfa.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Portmeirion, Robin Llywelyn bryd hynny y bydd cynnig arbennig i bobl Minffordd oherwydd y gerddoriaeth, a fydd yn dod i ben am 23.00.
