Cyhuddo CPD Caerdydd wedi honiadau o ganu caneuon homoffobig tuag at Chelsea
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (CBDLl) wedi cyhuddo Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar ôl honiadau fod cefnogwyr y clwb wedi canu caneuon homoffobig tuag at Chelsea.
Fe wnaeth Chelsea guro Caerdydd 3-1 yn rownd wyth olaf Cwpan EFL Lloegr ym mhrifddinas Cymru ar 16 Rhagfyr 2025.
Mewn datganiad brynhawn Gwener dywedodd CBDLl fod honiadau nad oedd Caerdydd wedi "sicrhau" bod eu cefnogwyr yn canu caneuon o'r math yma.
Mae'r cyhuddiad yn datgan fod y clwb yn honedig wedi "methu â sicrhau nad yw cefnogwyr yn defnyddio iaith neu'n ymddwym mewn ffordd amhriodol, sarhaus neu anweddus gan gynnwys cyfeiriad - boed yn benodol neu'n fwriadol - at gyfeiriadedd rhywiol tua'r ail funud o'r gêm," meddai'r datganiad.
Wrth ymateb i'r hyn ddywedodd CBDLl, dywedodd Caerdydd eu bod yn glwb "cynhwysol" ac nad oes croeso i "unrhyw fath o wahaniaethu" yn y clwb.
"Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi ymateb i gyhuddiad gan CBDLl mewn cysylltiad i ganu homoffobig gan leiafrif o unigolion yn ystod ein gêm yn erbyn Chelsea yng Nghwpan Carabao," meddai'r datganiad gan y clwb.
"Fel clwb cynhwysol sydd wrth galon ein cymuned, rydym yn condemnio’n gryf yr iaith a ddefnyddiwyd gan yr unigolion ac yn cefnogi ymrwymiad Heddlu De Cymru yn llwyr i ddwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif.
"Cafodd ymddygiad yr unigolion eu cydnabod yn gyflym yn ystod y gêm ac fe wnaeth cyfathrebu mewnol arwain at bresenoldeb yr heddlu i'r ardal briodol yn ystod y gêm.
"Mae'r clwb wedi ymrwymo i gynhwysiant a diogelu'r holl gefnogwyr sy'n mynychu ein gemau. Mae mesurau cadarn a chydlynol wedi eu rhoi ar waith cyn, yn ystod ac ar ôl y gêm hon ac mae hyn wedi'i amlygu yn ein hymateb i CBDLl.
"Nid ydym yn goddef unrhyw fath o wahaniaethu yn ein clwb, ac ni ddylai byth fod yn rhan o'r gymdeithas. Rydym yn atgoffa cefnogwyr fod ymddygiad o'r fath yn drosedd a'i fod yn cael ei drin felly pryd bynnag y caiff ei nodi."
