Cyhoeddi enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Derek Evans o Lannerch-y-medd sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes, yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn eleni.
Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled ei roi yn flynyddol gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.
Ers bron i 50 mlynedd, mae Mr Evans wedi gwirfoddoli’n gyson gyda’r Urdd yn Ynys Môn a thu hwnt, ar ôl dechrau fel ysgrifennydd Pwyllgor Cylch Caergybi yn 1975, cyn ymuno fel aelod o bwyllgor y rhanbarth, cyn mynd yn ei flaen i gadeirio’r pwyllgor am dros 30 mlynedd.
'Dyn sy’n rhoi yn ddi-ddiwedd'
Yn ogystal â’i waith ar bwyllgorau lleol, mae hefyd wedi bod yn trefnu, arwain a chefnogi digwyddiadau yn ei gymuned.
Dywedodd Elliw Mai Hughes, aelod o Fforwm Ieuenctid Ynys Môn: “Fydda’r cyfleoedd i bobl ifanc ddim yn bodoli heb gefnogwyr, a’r cefnogwr mwyaf sydd gan Ynys Môn yw Derek.
"Dyma ddyn sy’n rhoi yn ddi-ddiwedd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc Môn. ‘Sa fy mhrofiadau i ar yr ynys ddim yr un peth heb gyfraniadau Derek.”
Roedd Mr Evans yn aelod o'r criw wnaeth ail-sefydlu Aelwyd yr Ynys yn ôl yn 2004, cyn i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ar Ynys Môn.
Mae hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth drefnu amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc yn yr ardal, gydag uchafbwyntiau yn cynnwys trefnu bysiau o bob cwr o’r ynys i gefnogi Catrin Angharad pan oedd hi’n cystadlu yn Cân i Gymru, yn ogystal â sefydlu cyfrif Facebook Urdd Ynys Môn - a hynny cyn i’r Urdd yn ganolog gael cyfrif.
'Mistar Urdd Ynys Môn'
Yn ôl Eryl Williams, Rheolwr Cymunedol y Gogledd a’r Canolbarth yr Urdd, “Mi allech ddweud mai Derek ydy ‘Mistar Urdd Ynys Môn’.
“Dyw Derek byth yn methu Eisteddfodau Rhanbarth Ynys Môn, ble mae’n brysur yn sicrhau bod trefniadau’r dydd yn rhedeg yn esmwyth a bod llwyfan teg i bob cystadleuydd.
“Yn lleol mae wedi cefnogi Uwch Adran Rhosmeirch, ac yn flynyddol mae’n gwirfoddoli gyda cystadlaethau celf yr Eisteddfod.
"Mae Derek hefyd yn wyneb cyfarwydd yng ngwersylloedd yr Urdd, gan iddo drefnu degau o deithiau er mwyn sicrhau bod plant ei ardal yn cael y cyfle i brofi awyrgylch byrlymus y gwersylloedd."
Alun Williams, un o gyflwynwyr rhaglen Eisteddfod yr Urdd S4C, gyhoeddodd y newyddion heb rag-rybudd i Derek yn ystod Eisteddfod Rhanbarth Ynys Môn.
Fe fydd Mr Williams yn cael ei anrhydeddu’n swyddogol mewn seremoni ar Faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.