Cyfran uwch o farwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau ymhlith pobl sy’n gadael carchardai yng Nghymru
Mae adroddiad newydd yn codi pryderon am farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau a chynnydd mewn digartrefedd ymhlith pobl sy’n gadael y carchar yng Nghymru.
Roedd gwenwyno gan gyffuriau yn gyfrifol am 37% o’r holl farwolaethau ymhlith pobl a oedd wedi gadael y carchar ac o dan oruchwyliaeth yn y gymuned yng Nghymru y llynedd, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r gyfran yn sylweddol uwch na’r ffigwr ar gyfer Cymru a Lloegr gyda’i gilydd, lle’r oedd marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau yn cyfrif am 21% o’r holl farwolaethau yn y grŵp hwn.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod digartrefedd yn broblem gynyddol. Cynyddodd nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ar ddiwrnod eu rhyddhau o’r carchar 24% yn ystod 2025/26.
Yn ôl awdur yr adroddiad, Dr Robert Jones, mae’r canfyddiadau’n codi cwestiynau ynghylch a oes gan Lywodraeth Cymru y pwerau angenrheidiol i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol y problemau hyn o dan y setliad datganoli presennol.
Pryderon am ryddhau carcharorion yn gynnar
Daw’r canfyddiadau wrth i Lywodraeth y DU barhau i ryddhau rhai carcharorion yn gynnar er mwyn lleihau’r pwysau ar y system garchardai.
Cafodd ail don o tua 650 o garcharorion eu rhyddhau y mis hwn o dan y cynllun rhyddhau cynnar.
Mae’r cynllun wedi denu beirniadaeth gan rai dioddefwyr troseddau, ymgyrchwyr a gwleidyddion. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y rhai sy’n cael eu rhyddhau yn cael eu goruchwylio’n llym yn y gymuned.
Mae sefyllfa Carchar y Berwyn yn Wrecsam hefyd wedi codi cwestiynau am y cymorth sydd ar gael i garcharorion cyn ac ar ôl eu rhyddhau.
Mae mwy na 1,900 o garcharorion wedi cael eu rhyddhau’n gynnar o’r carchar ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth berthnasol yn 2024.
Berwyn: 'Cyffuriau a diffyg cymorth'
Mewn adroddiad arolygu a gafodd ei gyhoeddi fis Mai 2025, cododd Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi bryderon am gyffuriau sydd ar gael yng Ngharchar y Berwyn.
Mae’r arolwg yn datgelu fod cyffuriau’n haws eu cael ers yr arolwg blaenorol yn 2022, a dywedodd 16% o garcharorion eu bod wedi datblygu problemau gyda chyffuriau neu alcohol tra yn y Berwyn. O’r rheini, dim ond 29% ddywedodd eu bod wedi cael cymorth.
Cododd yr arolygiad bryderon hefyd am y cymorth sydd ar gael i garcharorion baratoi ar gyfer bywyd y tu allan i’r carchar.
Her dod o hyd i lety
Yn ôl yr un arolwg, dywedodd 69% o garcharorion y Berwyn fod angen cymorth arnynt i ddod o hyd i lety ar ôl eu rhyddhau. Dim ond 34% o’r rheini ddywedodd eu bod wedi cael cymorth o’r fath.
Mewn ymateb i Newyddion S4C, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod 91.3% o’r carcharorion a gafodd eu rhyddhau o’r Berwyn yn 2025/26 wedi mynd i lety sefydlog.
Ond dywedodd Ruth Power, prif weithredwr Shelter Cymru, fod angen cymorth dibynadwy ar bobl yn ystod eu cyfnod yn y carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.
Dywedodd: “Mae hawliau pobl sy’n ddigartref yn amrywio yn ôl y wlad, a dylai newidiadau i ddeddfwriaeth ddigartrefedd yma yng Nghymru, gydag amser, helpu i leihau’r tebygolrwydd y bydd rhywun sy’n gadael y carchar yn cael ei hun yn ddigartref ar ôl cael ei ryddhau yng Nghymru.”
Wrth ymateb i ganfyddiadau Prifysgol Caerdydd, dywedodd Mike Vigar, cyfarwyddwr gweithrediadau’r elusen Kaleidoscope, fod pob marwolaeth sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn “drasiedi y gellir ei hatal”.
Dywedodd David Bennett o elusen The Wallich fod angen cydgysylltu cymorth ym meysydd tai, iechyd a lles.
“Heb gefnogaeth gydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth iddyn nhw adael y carchar, mae’r data’n dangos bod y system yn ei gwneud hi’n hawdd i’r bobl hyn fethu wrth ailymuno â’r gymdeithas,” meddai.