'Parhau yn benderfynol o ddod o hyd i atebion' fis ar ôl dod o hyd i gorff babi ym Mangor
Mae swyddogion wedi dweud eu bod nhw’n parhau yn benderfynol o ddod o hyd i atebion fis ar ôl i gorff babi gael ei ddarganfod ar lan y Fenai ym Mangor.
Cafodd ymchwiliad ei lansio ar 27 Medi i ganfod amgylchiadau marwolaeth y babi ac i ddod o hyd i’w mam, sydd heb ei hadnabod eto.
Fe wnaeth Heddlu’r Gogledd gyhoeddi apêl o’r newydd ddydd Mawrth gan ddweud bod “pob trywydd ymchwilio posibl yn cael ei ddilyn”.
“Rydym yn parhau i weithio gydag arbenigwyr ar nifer o brofion arbenigol, gan obeithio y bydd y rhain yn cynnig trywyddau newydd i ni eu harchwilio,” medden nhw.
Dros y mis diwethaf, mae swyddogion wedi adolygu cannoedd o oriau o luniau teledu cylch cyfyng, wedi ymateb i wybodaeth gan y cyhoedd ac wedi dosbarthu dros 2,000 o daflenni i bobl sy’n byw ac yn gweithio’n lleol, medden nhw.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Llinos Davies eu bod nhw’n “parhau’n benderfynol o gael atebion” i’r babi, y maen nhw wedi ei enwi yn Babi Ceri.
“Mae swyddogion yn gweithio’n ddiflino i ymchwilio i amgylchiadau ei marwolaeth, ac yn parhau i apelio ar ei mam, ei thad neu ei theulu i gysylltu â ni,” medden nhw.
“Mae hwn wedi bod yn achos torcalonnus i gymuned Bangor a thu hwnt.
“Mae’r gefnogaeth a’r tosturi rydym wedi eu cael wedi bod yn ddiwyro wrth i ni barhau i apelio am unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i ganfod beth ddigwyddodd i Babi Ceri.
“Mae ein llinell ffôn benodol ar gyfer mam Babi Ceri yn parhau ar agor bob amser, er mwyn iddi allu siarad ag arbenigwr hyfforddedig a fydd yn gwrando arni ac yn ei chefnogi.”
Mae llinell ffôn benodol i’r fam ffonio neu anfon neges destun unrhyw bryd ar 07974 241223.
Mae modd hefyd ffonio 101 neu defnyddio y gwasanaeth sgwrsio byw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan gyfeirio at Operation Melex
Mae’n bosib hefyd cysylltu yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 11.
