'Byddwch yn barod': Cynnydd yng ngwerthiant bwyd tun a radios
Mae manwerthwyr mawr yn y DU wedi adrodd am gynnydd sylweddol yng ngwerthiant nwyddau hanfodol.
Daw ar ôl i’r Llywodraeth gynghori pobl i gadw cyflenwadau o fwyd, dŵr a nwyddau hanfodol eraill wrth gefn.
Fel rhan o ymgyrch newydd y Llywodraeth, “Byddwch yn barod”, mae cartrefi’n cael eu hannog i gadw digon o gyflenwadau hanfodol am dri diwrnod rhag ofn.
Mae’r rhestr wirio a gyhoeddwyd yn cynghori pobl i gadw:
- Digon o ddŵr potel a bwyd sy’n cadw’n hir am dri diwrnod
- Radio FM sy’n gweithio â batris neu drwy droi handlen i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd gwasanaethau’n methu
- Arian parod rhag ofn y bydd problemau gyda thaliadau electronig neu beiriannau arian parod.
Yn ôl rhaglen Newsnight y BBC, gwelodd cadwyn archfarchnadoedd Iceland gynnydd o 40% yng ngwerthiant cynhyrchion tun dros y penwythnos.
Dywedodd y rhaglen hefyd fod Robert Dyas wedi gweld cynnydd o 160% yng ngwerthiant radios o’i gymharu â’r wythnos ddiwethaf.
Yn y cyfamser, dywedodd Maplin fod gwerthiant radios wedi cynyddu 92%, gwerthiant tortshys wedi cynyddu 284% a gwerthiant gwefrwyr cludadwy wedi cynyddu 106% ers cyhoeddiad y Llywodraeth yr wythnos ddiwethaf, o’i gymharu â’r un cyfnod fis diwethaf.
Mae cyngor y Llywodraeth yn nodi cam cyntaf ymgyrch tair blynedd sy’n ceisio helpu cartrefi i deimlo’n fwy parod ar gyfer digwyddiadau sy’n tarfu ar fywyd bob dydd, fel tywydd garw.
Daw ar ôl i dywydd poeth iawn, sychder a thanau daro’r DU dros yr haf.
Dywedodd llefarydd ar ran Iceland wrth Newsnight y BBC ei fod yn “amlwg bod defnyddwyr wedi gwrando ar neges y Llywodraeth”.
Rydyn ni wedi gweld cynnydd o 40% yng ngwerthiant cynhyrchion tun dros y penwythnos, a gwerthiant cryf o ddŵr potel hefyd,” medden nhw.
“Mae gennym ddigon o’r cynhyrchion hyn mewn stoc o hyd.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Wes Streeting, wrth y rhaglen: “Mae’n galonogol bod pobl yn cymryd camau ymarferol i fod yn barod.
“Mae cadw ychydig o nwyddau hanfodol bob dydd gartref, o fwyd tun i dortshys, yn helpu cartrefi i baratoi ar gyfer problemau, boed yn lifogydd, toriadau trydan neu bibellau’n byrstio.
“Gall pob un ohonom wneud ein rhan i sicrhau bod Prydain yn gallu ymdopi’n well.”
