'Niwed aruthrol': Pryderon dros gau gwasanaeth gofal brys yn unig ysbyty Ynys Môn
Mae pryderon y gallai cau gwasanaeth gofal brys yn yr unig ysbyty ar Ynys Môn achosi "niwed aruthrol" i gleifion sydd angen triniaeth feddygol.
Daw'r rhybudd gan y Cynghorydd Jeff Evans wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ystyried cau Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (UPCC) yng ngogledd Cymru, gan gynnwys y gwasanaeth yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi.
Mae'r canolfannau'n darparu triniaeth i gleifion sydd angen sylw meddygol brys, ond nad oes modd iddyn nhw gael apwyntiad gyda'u meddyg teulu.
Yn ôl llythyr i staff gan Bennaeth Gwasanaeth Gofal Sylfaenol a Chymunedol y bwrdd iechyd yn y gorllewin, mae caniatâd wedi'i roi i ddechrau ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig i ddod â'r gwasanaeth i ben erbyn 31 Mawrth 2027.
"Nid ar chwarae bach mae'r cynnig wedi ei roi. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gwasanaeth wedi wynebu cyfuniad o heriau sydd wedi codi pryderon am ei gynaladwyedd hir dymor," meddai'r llythyr.
Ymhlith y rhesymau dros y cynnig i wneud newidiadau i'r ddarpariaeth mae heriau ariannol, heriau recriwtio a chadw staff, a dibyniaeth gynyddol ar staff dros dro.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y Cynghorydd Evans y byddai cau'r gwasanaeth yn arwain at "niwed aruthrol i'r bobl sydd angen asesiad a thriniaeth feddygol frys".
"Rydw i wedi cael dros gant o ymatebion i'm neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn barod. Mae pobl yn anhapus iawn.
"Maen nhw'n dweud, beth yn y byd sy'n digwydd? Beth sy'n digwydd i'r GIG? Beth sy'n digwydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
"Maen nhw'n cefnu ar anghenion y bobl, y cleifion, y bobl sydd eu hangen nhw ar pan maen nhw wir eu hangen."
Dywedodd Mr Evans bod rhwng 25 a 30 o gleifion yn defnyddio'r ganolfan ym Mhenrhos Stanley bob dydd, gan rybuddio y byddent yn troi at feddygon teulu neu adrannau brys sydd eisoes o dan bwysau.
Ychwanegodd: "Hyd yn oed heddiw, rydw i wedi cael llythyr gan feddygfa ar yr ynys yn esbonio'r drafferth y byddan nhw'n wynebu os bydd y gwasanaeth yn cau.
"A allen nhw ddim yn gallu troi at yr adrannau achosion brys, oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu ymdopi fel y mae hi, gyda pobl yn disgwyl yno am dros 12 awr yn Ysbyty Gwynedd.
"Felly mae problem. Ble mae'r bobl yma'n mynd i fynd?"
'Effaith ddinistriol'
Mae un Aelod o'r Senedd sydd yn cynrychioli Bangor Conwy Môn, Janet Finch-Saunders, hefyd wedi gwrthwynebu'r cynnig.
Dywedodd y byddai cau'r ganolfan yn ychwanegu at y pwysau presennol ar adrannau brys, gan arwain o bosibl at amseroedd aros hirach ac oedi pellach.
“Mae’r cynnig i gau’r Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys yn Ysbyty Penrhos Stanley yn peri pryder mawr, gan fod y canolfannau hyn yn helpu i leihau’r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys.
“Byddai hyn yn cael effaith ddinistriol ar y gymuned leol.
"Byddaf yn parhau i wrthwynebu’r cynnig, yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ailystyried ei benderfyniad, ac yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal i alw arno i ymyrryd ac atal y ganolfan rhag cau.”
Ymgynghoriad
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer: "Mae mynediad at ofal brys ac argyfwng yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd.
"Rydym felly'n adolygu'r ddarpariaeth bresennol o Ganolfannau Gofal Sylfaenol Brys ac yn ymgysylltu â'n staff.
"Bydd canlyniad yr adolygiad a'r dull posibl o ddarparu'r gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol yw penderfyniadau ynghylch trefniadaeth gwasanaethau lleol y GIG, gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i asesu anghenion y boblogaeth maen nhw'n ei gwasanaethu.
"Fel gydag unrhyw newid posibl i wasanaethau, byddem yn disgwyl i sefydliadau GIG Cymru ymgysylltu’n agored ac yn dryloyw â rhanddeiliaid, yn unol â chanllawiau cenedlaethol.”
