'Y cyflwynydd natur mwya fu erioed': David Attenborough yn 100 oed
Mae’r darlledwr a’r naturiaethwr Iolo Williams wedi rhoi teyrnged i Syr David Attenborough ar achlysur ei ben-blwydd yn 100 oed ddydd Gwener, 8 Mai.
Dywedodd Iolo Williams: “Heb os, mae David Attenborough wedi cael, byddwn i’n dweud, fwy o ddylanwad ar fwy o bobl ar draws y byd, pan mae’n dod at fyd natur a’r amgylchedd, na neb arall erioed.”
Cafodd Syr David ei eni ar 8 Mai 1926, ac mae’n cael ei ystyried yn un o leisiau mwyaf adnabyddus byd teledu.
Ymddangosodd David Attenborough am y tro cyntaf ar y sgrin yn 1953, cyn mynd ymlaen i greu gyrfa deledu eithriadol sydd wedi para dros saith degawd.
Mae ei raglenni, gan gynnwys Life on Earth, The Blue Planet a Planet Earth, wedi cael dylanwad mawr ar y ffordd mae cynulleidfaoedd yn deall y byd natur, newid hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth.
Wrth siarad â Newyddion S4C am y dylanwad gafodd rhaglenni David Attenborough arno’n blentyn, dywedodd Iolo Williams ei fod wedi gwylio “pob un munud o bob un rhaglen” o Life on Earth.
“Mae llawer ohono dal i aros yn y cof heddiw, ac o fan yna ymlaen dw i wedi trio dal fyny efo bron pob un o’i raglenni o.”
Mae Iolo hefyd wedi cwrdd â Syr David sawl gwaith, ac wedi gweithio gydag ef ar adegau oddi ar y sgrin, gan gynnwys mewn digwyddiad cadwraethol yn Llundain dros ddegawd yn ôl.
Dywedodd ei fod yn cofio cyrraedd digwyddiad ffurfiol mewn “gentlemen’s club” yng nghanol Llundain, lle roedd Syr David wedi’i amgylchynu gan benaethiaid mudiadau cadwraeth ac aelodau o’r llywodraeth.
“Dyma fi’n sleifio i mewn,” meddai Iolo.
“Mae o’n dal fy llygad i ac yn dod syth ata i, ac yn dweud, ‘Iolo, marvellous to see somebody else not wearing a tie.’ Wrth gwrs, wnes i ymlacio yn syth.”
Disgrifiodd Iolo Williams Syr David fel “bachan gwybodus ofnadwy” ond hefyd fel rhywun “ffeind iawn”.
Ar drothwy ei ben-blwydd, fe ddywedodd David Attenborough ddydd Iau: "Roeddwn i wedi meddwl y byddwn i yn dathlu fy mhenblwydd yn 100 oed yn dawel, ond mae'n ymddangos fod gan nifer ohonoch chi syniadau eraill.
"Dwi wedi fy llethu gan yr holl gyfarchion pen-blwydd, o grwpiau meithrin i drigolion mewn cartrefi gofal, ac unigolion di-ri a theuluoedd o bob oed."
‘Braint fwyaf fy mywyd’
Yn ôl yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Caerdydd, a ymddangosodd yn y gyfres Attenborough ar y BBC, Saving Planet Earth: “Does dim amheuaeth bod Syr David wedi dylanwadu ar fy mhenderfyniad i neilltuo fy mywyd i astudio a gwarchod bywyd gwyllt.”
Dywedodd hefyd ei fod wedi dylanwadu ar ei yrfa yn cyflwyno rhaglenni teledu, sydd wedi arwain at ei raglenni’n cael eu gweld ledled y byd ar lwyfannau gan gynnwys Disney, Discovery ac Amazon Prime.
“Does dim angen dweud bod gweithio gyda Syr David yn frawychus, ar y sgrin ac oddi arni,” meddai.
“Cael fy ngwahodd i ffilmio rhaglen ddogfen Attenborough oedd braint fwyaf fy mywyd.
“Mae Syr David yn hynod ddoniol a ffraeth, ond os ydych chi’n ei adnabod yn dda, chi'n gwybod ei fod yn mwynhau dadl dda a rhoi’r byd yn ei le."