Wrecsam: Criwiau'n brwydro i ddiffodd tân mewn iard sgrap

Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Tan iard sgrap Llai, Wrecsam

Mae diffoddwyr yn parhau i ddelio â thân mawr mewn iard sgrap yn Wrecsam oriau wedi i'r fflamau gydio gan anfon mwg trwchus i'r awyr uwchben y ddinas.

Fe gafodd swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r safle ar Stad Ddiwydiannol Llai tua 19:00 nos Fercher.

Roedd y tân i'w weld o bell, yn ôl delweddau a negeseuon gafodd eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol dros nos, gyda nifer o'r lluniau'n dangos fflamau cringoch ffyrnig yn llosgi.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod 12 injan yn bresennol pan oedd y tân ar ei anterth, gyda chriwiau'n parhau ar y safle fore Iau i fonitro a diffodd y tân mewn mannau ble mae'n parhau i losgi.

"Gofynnwn i chi osgoi'r ardal, cadw'r ffyrdd yn glir i gerbydau brys ac, os ydych yn cael eich heffeithio gan fwg, cadw ffenestri a drysau ar gau," meddai llefarydd. 

Ychwanegodd swyddogion fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn goruchwylio'r safle i sicrhau bod "unrhyw effaith amgylcheddol" yn cael ei reoli gymaint â phosib.

Dywedodd yr heddlu fod Ffordd y Glowyr, ble mae'r iard sgrap wedi ei lleoli, ar gau i draffig fore Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.