Un o redwyr Hanner Marathon Caerdydd wedi marw
Bu farw un o redwyr Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, yn ôl trefnwyr y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Run 4 Wales: "Yn drist iawn, gallwn gadarnhau bod person wedi marw yn y digwyddiad eleni.
"Hoffem gydnabod cymorth timau meddygol yn y digwyddiad a thimau meddygol yr ysbyty a ymatebodd yn gyflym iawn ac yn broffesiynol.
"Mae ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau'r person a oedd yn cymryd rhan."
Ychwanegodd y trefnwyr na fydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi, yn unol â dymuniadau teulu'r person a fu farw.
Fe wnaeth mwy na 25,000 o redwyr gymryd rhan yn y ras 13.1 milltir drwy strydoedd y brifddinas ddydd Sul.
Hon oedd 23ain Hanner Marathon Caerdydd, gyda mwy na 30,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiadau dros y penwythnos, gan gynnwys y rasys iau ddydd Sadwrn.
Roedd mwy na 5,700 o redwyr rhyngwladol o 99 o wledydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad eleni, sef y nifer uchaf erioed.
Fe gafodd record cwrs y menywod ei thorri, gyda Joyciline Jepkosgei o Kenya yn ennill gydag amser o 1:05:40, 12 eiliad yn gyflymach na'r record flaenorol oedd yn ei lle ers 2017.
Gideon Kiprotich o Kenya enillodd ras y dynion gydag amser o 59:34.
