Tri chastell yng Nghymru ar stampiau newydd y Post Brenhinol
Mae'r Post Brenhinol wedi rhyddhau set newydd o stampiau sy'n dathlu nifer o gestyll y DU, gan gynnwys tri chastell yng Nghymru.
Ymhlith yr wyth castell sydd yn y prif gasgliad mae Castell Rhaglan a Chastell Penfro, ynghyd â chestyll o'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae trydydd castell o Gymru hefyd yn ymddangos mewn dalen arbennig o bedwar stamp sy’n dathlu cestyll brenhinol y DU.
Bydd Castell Caernarfon yn ymddangos ynghyd â Chastell Windsor, Castell Dover a Chastell Balmoral.
Mae’r prif stampiau’n cynnwys ffotograffau o gestyll sy’n dyddio o gyfnod y Normaniaid ymlaen, tra bod y stampiau brenhinol wedi’u haddurno â gweithiau celf a gomisiynwyd gan y darlunydd Rob Ball.
Nid oes cestyll o gyfnod tywysogion Cymru yn ymddangos yn y casgliad.
Dywedodd David Gold, cyfarwyddwr materion allanol a pholisi’r Post Brenhinol: "Mae cestyll ymhlith nodweddion mwyaf adnabyddus tirwedd y DU, ac mae’r rhifyn hwn yn dathlu’r sgìl, yr uchelgais a’r dyluniad sydd y tu ôl i’r strwythurau nodedig hyn."
Bydd y stampiau ar gael i’w harchebu ymlaen llaw o ddydd Iau, cyn mynd ar werth yn gyffredinol ar 21 Mai.