Priodferch yn synnu teithwyr drwy ddal y trên i'w phriodas

Tren priodas

Fe gafodd teithwyr Metro De Cymru ychydig o syndod ddydd Sadwrn wrth i briodferch a'i pharti priodas deithio i Benarth ar y trên ar gyfer ei phriodas ym Mhafiliwn Pier Penarth.

Mae Bethan a'i gŵr Chris yn defnyddio lein Coryton ers amser maith.

Wrth gynllunio eu priodas, penderfynodd y cwpl nad oedd ffordd well o ddechrau'r dathliadau na thrwy gynnwys y gwasanaeth trên y maen nhw'n ei ddefnyddio mor aml.

Dywedodd Bethan: “Ers dechrau ein perthynas, rydym wedi mwynhau defnyddio lein Coryton - mae yn ffordd wych o gyrraedd Penarth yn gyflym, gyda'i bromenâd hardd a chymaint o fwytai gwych yno.

“Roedd gwneud y penderfyniad i ddefnyddio un o'r trenau trydan newydd hyfryd i gyrraedd ein priodas yn un o'r rhai cyntaf a wnaethom. Cafodd ein gwesteion eu synnu'n fawr pan glywsant am fy mwriad, ond fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru'r diwrnod yn arbennig iawn, felly cafodd y parti priodas amser wrth eu bodd ac fe gyrhaeddais y seremoni mewn digon o bryd!”

Ychwanegodd Chris: “Diolch am gludo Bethan i'r seremoni. Am un diwrnod yn unig, 'Transport for Veils'!”

Roedd cyd-deithwyr a gweithwyr Trafnidiaeth Cymru yn llongyfarch y grŵp wrth iddynt deithio i Benarth ar y trên.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Bethan a Chris wedi dewis teithio ar Metro De Cymru a'i wneud yn rhan o'u diwrnod priodas. 

"Fel defnyddwyr rheolaidd lein Coryton, mae eu taith yn ein hatgoffa o sut mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cysylltu pobl â'r hyn sy'n bwysig.

“Hoffem eu llongyfarch ar eu priodas ac rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan fach yn eu dathliadau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.