Ymchwilio i graffiti ar waliau castell yn Sir Gâr
Mae'r heddlu'n Sir Gâr yn ymchwilio i drosedd treftadaeth honedig ar safle hen castell yn y sir.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod eu Tîm Troseddau Gwledig yn ymchwilio i graffiti ar nifer o rannau o Gastell Llansteffan.
Digwyddodd y difrodi rhywbryd rhwng 01/05/2026 a 10/05/2026.
Mae graffiti wedi'i chwistrellu yn ardaloedd Tŵr y Gogledd a Bastion y Dwyrain meddai swyddogion.
"Trosedd treftadaeth yw unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy'n niweidio asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau.
"Mae rhai o'r asedau hyn wedi'u diogelu gan droseddau troseddol penodol ond mae trosedd treftadaeth yn aml yn cymryd ffurf troseddau 'cyffredinol' fel lladrad, difrod troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd yr un mor niweidiol i asedau hanesyddol ac yn ymyrryd â dealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd ohonynt" meddai llefarydd ar ran y llu.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y difrod i gysylltu gyda nhw.