Helbulon Llafur yn parhau wrth i Wes Streeting ystyried herio Keir Starmer
Mae Syr Keir Starmer yn wynebu diwrnod arall o gwestiynau am ei ddyfodol wrth i Wes Streeting ystyried a ddylai ei herio am yr arweinyddiaeth.
Y gred yw bod yr Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud wrth ei gefnogwyr ei fod yn paratoi i ymddiswyddo ddydd Iau a chyhoeddi cais am y swydd ar ôl i Lafur brofi ffraeo cyhoeddus ymysg ei rhengoedd ar ddechrau'r wythnos.
Mae'n ymddangos bod ymdrechion i gael gwared ar Syr Keir o Downing Street wedi dod i ben ddydd Mercher, heb unrhyw weinidogol pellach yn ymddiswyddo na galwadau o'r meinciau cefn am ei ymddiswyddiad.
Ond mae cefnogwyr o'r undebau llafur Llafur wedi tynnu eu cefnogaeth i Syr Keir yn ôl, gyda thîm Wes Streeting heb wadu honiadau ei fod ar fin ymddiswyddo.
Os bydd yn herio Keir Starmer, bydd angen cefnogaeth 81 aelod seneddol Llafur ar Mr Streeting i ddechrau cystadleuaeth ffurfiol.
Er bod tua 87 o ASau wedi galw’n gyhoeddus hyd yn hyn am ymddiswyddiad Syr Keir, nid ydynt wedi uno y tu ôl i unrhyw ymgeisydd i’w ddisodli.
Enwau posib
Ymhlith yr enwau allai herio'r prif weinidog mae’r cyn-ddirprwy brif weinidog Angela Rayner, yr Ysgrifennydd Ynni a chyn-arweinydd y blaid Ed Miliband a’r gweinidog lluoedd arfog Al Carns.
Mewn erthygl yn The New Statesman ddydd Iau, dywedodd Mr Carns: “Nid oes angen mwy o sloganau, strategaethau, datganiadau i’r wasg na chomisiynau arnom. Mae angen gweithredu.”
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog David Lammy wedi cwestiynu a all unrhyw un o gystadleuwyr y prif weinidog gasglu’r gefnogaeth angenrheidiol i lansio ymgyrch am yr arweinyddiaeth.
Mae disgwyl i Syr Keir ei hun ymladd unrhyw her am ei arweinyddiaeth, a threuliodd brynhawn dydd Mercher yn cwrdd â gweinidogion ac ASau Llafur wrth iddo geisio osgoi cael ei ddisodli.
Yn ddiweddarach dydd Iau bydd yn ceisio ail ennill rheolaeth dros yr agenda wleidyddol gan gyflwyno deddfwriaeth i ailwampio tai cymdeithasol a’r “hawl i brynu”.
Cyn cyflwyno'r Bil Adnewyddu Tai Cymdeithasol, sydd i fod i hybu'r cyflenwad o dai cyngor, dywedodd Syr Keir fod ei Lywodraeth yn "cymryd cyfrifoldeb, yn ailadeiladu tai cymdeithasol, ac yn cyflawni'r newid y pleidleisiodd pobl drosto".