Beth yw Hantafeirws - a pha mor hawdd yw ei ddal?
Ar ôl y newyddion fod nifer o bobl wedi marw yn ddiweddar o ganlyniad i Hantafeirws, gydag achosion yn ymddangos ar y llong MV Hondius oedd ar fordaith rhwng yr Ariannin a Cape Verde, beth ydym yn ei wybod am yr haint, a pha mor hawdd yw ei ddal?
Mae Hantafeirws yn perthyn i nifer o feirysau sy'n cael eu cario gan gnofilod ('rodents') fel llygod a llygod mawr ac mae'n gallu achosi afiechydon iechyd difrifol mewn pobl.
Gan amlaf mae pobl yn cael eu heintio ar ôl bod mewn cyswllt gyda llygod sydd wedi eu heintio, neu ar ôl bod mewn cysylltiad gyda'u poer, baw neu wrin.
Gall pobl sydd wedi eu heintio ddioddef sawl math gwahanol o afiechydon difrifol ac fe allai arwain at farwolaeth.
Er nad oes unrhyw driniaethau penodol ar gyfer cleifion sydd wedi eu heintio, mae gofal meddygol cynnar yn hanfodol i wella cyfleoedd cleifion o oroesi.
Mae hyn yn cynnwys triniaethau ar gyfer afiechydon all effeithio ar anadlu, y galon a chymlethodau gyda'r arennau.
Symptomau a diagnosis
Mewn pobl, gall symptomau ddechrau ymddangos rhwng un ag wyth wythnos wedi i berson gael ei heintio, gan ddibynnu ar union fath y feirws.
Gall symptomau gynnwys gwres uchel, cur pen a phroblemau gyda'r perfedd, gan gynnwys poenau stumog a chyfog.
Gall diagnosis cynnar o'r feirws fod yn heriol gan fod symptomau'n gallu bod yn debyg i afiechydon eraill fel Covid-19, niwmonia, y ffliw neu sepsis.
Mae edrych ar hanes meddygol claf yn hanfodol felly, gan gynnwys ystyriaeth o unrhyw gyswllt posib gyda llygod neu hanes o deithio diweddar.
Triniaeth
Nid oes un driniaeth gwrthfirol benodol ar gyfer yr haint.
Mae gofal yn canolbwyntio ar gadw llygad barcud clinigol ar glaf a gwylio am unrhyw gymlethdodau.
Mae dod o hyd i ofal dwys yn gynnar ar glaf sydd ei angen yn hanfodol.
Sut mae claf yn dal y feirws?
Rydych yn fwy tebygol o ddal Hantafeirws os ydych yn gweithio mewn lleoliad lle mae llygod, llygod mawr neu lygod y gwair (Vole) yn bresennol.
Mae modd i'r haint ymledu rhwng pobl ond mae'n bwysig pwysleisio fod hyn yn anghyffredin a'r risg yn isel meddai Sefydliad Iechyd y Byd.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cyhoeddus Llywodraeth y DU Sharon Hodgson fod y risg i'r cyhoedd "yn hynod o isel", ar ôl i 22 o bobl oedd ar fwrdd llong yr MV Hondius gael eu trosglwyddo i Ysbyty Arrowe Park yn Lerpwl am driniaeth ddydd Sul.
"Heb unrhyw achosion na symptomau yn eu plith a'n mesurau monitro ac ynysu llym, mae'r risg i'r cyhoedd yn parhau i fod yn isel iawn," meddai.
Ydw i mewn perygl?
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn pwysleisio mai isel yw y risg i'r boblogaeth o ganlyniad i'r achosion diweddar o Hantafeirws.
Dim ond y math Seoul o'r feirws sydd wedi ei ddarganfod yn y DU erioed, ac nid yw'r haint yn ymledu drwy gyswllt cymdeithasol o ddydd i ddydd.
Nid yw math Seoul o'r feirws yn ymledu drwy gyffyrddiad cymdeithasol rhwng pobl.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU nad yw'r feirws yn cael ei ledaenu trwy gyswllt cymdeithasol bob dydd fel cerdded mewn mannau cyhoeddus, mewn siopau, gweithleoedd, neu ysgolion.
Yn yr achosion prin lle mae person wedi dal y feirws gan berson arall, maent wedi cael cyswllt agos a pharhaus â'r person sydd wedi'i heintio â'r feirws.
"Nid oes angen unrhyw gamau rhagofal ychwanegol ar gyfer y cyhoedd" meddai llefarydd.
Llun: Sefydliad Iechyd y Byd