Prifysgol Caerdydd yn oedi cynllun llyfrgell ar ôl pryderon

ASSL

Mae Prifysgol Caerdydd wedi penderfynu oedi gwaith paratoi ar gyfer gofod dysgu newydd oedd wedi’i gynllunio ar gyfer yr haf, yn dilyn pryderon am effaith bosib y cynllun ar un o’i llyfrgelloedd.

Mae grŵp 'Save Our ASSL', sydd wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau, wedi croesawu’r datganiad ond wedi pwysleisio mai “saib yn unig” yw’r penderfyniad.

Roedd Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, neu ASSL, yn un o’r lleoliadau oedd yn cael eu hystyried ar gyfer cynllun peilot i greu man dysgu ac astudio newydd.

Ond mewn datganiad, dywedodd y Brifysgol fod yr amserlen wreiddiol bellach yn “anghyraeddadwy”, ac y byddai gwaith paratoi oedd wedi’i gynllunio ar gyfer haf 2026 yn cael ei ohirio.

Yn hytrach, bydd tîm y prosiect yn parhau ag astudiaeth ddichonoldeb (feasibility study) yn ystod yr haf, gan gynnwys adolygiad o bob lleoliad posib.

Y bwriad yw cyhoeddi cynllun llawn tua diwedd y flwyddyn, gyda’r posibilrwydd y gallai gwaith ddechrau yn ystod haf 2027.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dan Tappin, a sefydlodd y ddeiseb ac sy’n aelod o’r grŵp Save Our ASSL, ei fod ef a’i gydweithwyr yn croesawu’r datganiad.

Ond pwysleisiodd: “Rydym yn nodi mai saib yn unig yw hwn.”

Dywedodd ei fod yn falch bod y Brifysgol bellach am gynnal ymgynghoriad ehangach gyda staff a myfyrwyr, ond ei fod yn gobeithio y bydd y cyhoedd sydd hefyd yn defnyddio’r casgliadau yn cael cyfle i gyfrannu.

“Rydym yn gobeithio ein bod wedi tynnu sylw Prifysgol Caerdydd at y ffaith bod ASSL yn adeilad sy’n cael ei barchu a’i garu’n fawr,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y gallai’r Brifysgol bellach ddathlu’r llyfrgell fel “ased gwych i’r Brifysgol ac i’r gymuned ehangach”.

Daw’r datblygiad wedi i bryderon gael eu codi am ddyfodol casgliadau printiedig yn ASSL, gan gynnwys casgliadau Cymreig a Cheltaidd, a mynediad y cyhoedd atynt.

Fis diwethaf, fe wnaeth Andrew Green, cyn-lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, rybuddio y gallai colli mynediad cyhoeddus at gasgliadau Cymreig pwysig fod yn “drychineb”.

Roedd e-bost mewnol a welwyd gan Newyddion S4C yn dweud bod cynllun wedi’i gymeradwyo i greu man addysgu a seminarau newydd ar gyfer tua 160 o fyfyrwyr ar lawr uchaf ASSL.

Yn ôl yr e-bost hwnnw, roedd disgwyl i’r gwaith ddechrau tua diwedd mis Mehefin, gyda’r gofod newydd yn weithredol ym mis Ionawr 2027.

Yn eu datganiad diweddaraf, dywedodd y Brifysgol na fyddai llyfrau a chasgliadau allweddol yn cael eu gwaredu fel rhan o’r cynlluniau.

Dywedodd hefyd na fyddai Casgliad Salisbury yn cael ei effeithio, gan ei fod wedi’i leoli yn yr adran Casgliadau Arbennig ar lawr gwaelod isaf ASSL.

Ychwanegodd Anita Edson, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau’r Campws, nad oes unrhyw newid wedi’i gynllunio i nifer staff y llyfrgelloedd.

Dywedodd y byddai staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill yn cael cyfle i helpu i lunio’r prosiect yn ystod y misoedd nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.