Becws yn Sanclêr yn ailagor wedi misoedd o waith atgyweirio yn dilyn llifogydd

Newyddion S4C
Sheila Phillips, perchennog County Stores
Sheila Phillips, County Stores

Roedd yna ddathlu mawr yn nhref Sanclêr fore dydd Llun wrth i fecws gafodd ei ddifrodi yn wael gan lifogydd ailagor ar ôl dros saith mis o waith atgyweirio.

Roedd County Stores dan ddŵr pan darodd llifogydd difrifol ardaloedd Hendy-gwyn ar Dâf a Sanclêr ar 4 a 5 Tachwedd 2025.

Fe adadwyd haen drwchus o fwd ar waelod y siop, a bu'n rhaid gwaredu'r welydd ac offer o'r siop yn sgil y difrod.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân achub y perchennog, Sheila Phillips, 80 oed, o'r becws mewn cwch yn oriau mân y bore ar 5 Tachwedd.

Ar ôl misoedd o waith adeiladu, fe heidiodd cwsmeriaid yn ôl i'r siop yng nghanol y dref fore Llun.

Roedd sawl un wedi anfon cardiau i ddymuno yn dda i'r busnes wrth iddo ailagor.

Roedd Sheila Phillips ar ben ei digon wrth weld y busnes yn ailagor yn dilyn y llifogydd. 

Dywedodd mai un cymhelliad mawr dros ailagor oedd gwneud hynny er cof am ei diweddar ŵr, Wyndham, oedd wedi sefydlu'r becws gyda hi rhyw 50 mlynedd yn ôl.

"Rwy'n hapus ofnadwy. Do ni ddim yn meddwl dethen ni byth i le ydyn ni heddi," meddai.

"Mae e wedi bod yn waith caled, a ni wedi dod i ben a hi. Mae hi wedi bod fel ffair yma a rwy'n hapus iawn i weld pob un. 

"Mae lot o hugs a kisses wedi bod bore 'ma. Maen nhw wedi bod yn gweithio yn galed 'ma ac roedd rhaid ailwneud e i gyd. 

Image
Llifogydd Sancler
Llifogydd y tu allan i County Stores yn ystod oriau mân 5 Tachwedd 2025

"Gallen ni byth a chlanhau fe. Roedd gormod o fochdra gyda'r dŵr wedi dod mewn ac roedd y cwbl yn frown. 

"Es i mas mewn dinghy, ond fi wedi dod mewn ar ddwy droed bore 'ma!"

Ychwanegodd: "Roedd Michael y mab yn dweud 'ailagorwn ni achos bydde Dad ddim yn bles i ni gau fe'. 

"Dw i yn falch fy mod i wedi ailagor. Dw i yn gobeithio bod e'n edrych lawr arna i a dweud 'mae hi wedi gwneud e'."

'Falch bod e ar agor'

Mae'r staff wedi aros yn driw i'r busnes ers iddo orfod cau yn ddisymwth saith mis yn ôl. 

Un o'r rheini yw wyres Sheila, Leah Coleman. Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae'n neis a ni'n speechless i weld y drysau yn agor eto.

"Mae hi wedi bod yn saith mis hir a stressful. Saith mis ni wedi bod ar gau a ni nôl ar agor."

Roedd y siop dan ei sang fore dydd Llun gyda chwsmeriaid lleol wedi dod nôl i gefnogi'r busnes. 

Un o'r rheini oedd Malcolm Thomas o bentref Llangynin.

"Mae'n grêt. Drychwch ar yr awyrgylch sydd 'ma bore 'ma," meddai.

Image
Malcolm Thomas, cwsmer County Stores o Langynin
Malcolm Thomas, cwsmer o Langynin

"Mae lot o bobl wedi bod yn sefyll lot o amser i'r lle i ailagor a diolch byth mae'r diwrnod wedi dod. Galli di sefyll yma drwy'r bore a bydd hi'n llawn yma drwy'r bore. Chi yn siarad am lefydd i gwrdd a dyma fe. 

"O'r peth cyntaf maen nhw yn agor yn y bore ti'n guaranteed bod pobl yma a ti'n siarad gyda nhw. Dyna beth ni wedi colli dros y cyfnod ma."

Un arall oedd wedi galw mewn yn ystod y bore oedd Helen Bowen o Drelech.

"Ni mor falch gweld e a ar agor eto achos ni'n joio bara," meddai.

"Mae e wedi bod yn amser hir, chwarae teg mae'n edrych yn lyfli 'ma. 

"Ni'n falch bod e ar agor."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.