Teyrngedau o fyd y theatr a theledu i'r actor Owain Rhys Davies
Mae teyrngedau wedi rhoi o fyd y theatr a theledu i'r actor Owain Rhys Davies o Gaerdydd, sydd wedi marw'n 44 oed.
Roedd Mr Davies wedi serennu yng nghyfresi S4C yn ogystal â sawl cyfres deledu Americanaidd, gan gynnwys Twin Peaks: The Return a chynhyrchiad Disney, Alice Through the Looking Glass.
Fe wnaeth chwarae cymeriad Agent Wilson yn Twin Peaks, y rôl y mae'n cael ei adnabod fwyaf amdani.
Ar ddechrau ei yrfa, roedd yn actgio cymeriadau yng nghyfresi Teulu Tŷ Crwn, Y Pris a Cowbois ac Injans ar S4C.
Roedd hefyd yn adnabyddus ym myd y theatr, ac wedi perfformio ar lwyfannau'r West End yn Llundain a'r Royal National Theatre.
Bu farw ar 27 Mai, meddai ei deulu.
Cyhoeddodd National Theatre Wales deyrnged ddydd llun, gan ddisgrifio Owain Rhys Davies fel "talent nodedig y cyfoethogodd ei waith theatr a sgrin Cymru, a bydd ei gyfraniad at y celfyddydau perfformio yn cael ei gofio gan gynulleidfaoedd, cydweithwyr a ffrindiau fel ei gilydd.
"Gwnaeth ei angerdd, ei greadigrwydd a'i ymroddiad i'w grefft effaith barhaol ar fywyd diwylliannol Cymru. Mae cymuned y celfyddydau perfformio Cymru yn dlotach oherwydd ei golled, a dim ond dychmygu'r llawer mwy o straeon y byddai wedi mynd ymlaen i'w hadrodd allwn ni.
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad diffuant gyda theulu, ffrindiau, anwyliaid Owain, a phawb a gafodd y fraint o weithio ochr yn ochr ag ef. Cysga’n ddawel, Owain."
'Goleuo pob ystafell'
Dywedodd seren Coronation Street, Hayley Tamaddon, bod ei chalon wedi ei thorri ar ôl marwolaeth un o'i ffrindiau "prydferth".
"Mae'n dorcalonnus clywed bod fy ffrind hardd wedi marw," meddai'r actor mewn datganiad ar blatfform Instagram.
"Roedd Owain yn cael ei garu gan cymaint o bobl. Roedd yn goleuo bob ystafell yr aeth i mewn iddi.
"Mae gen i atgofion hyfryd ohonom ni gyda'n gilydd, rydyn ni'n mynd yn ôl gymaint o flynyddoedd... ond bydd ein hamser gyda'n gilydd yn LA bob amser yn gwneud i mi wenu. Cysga'n dda fy nghariad. Mae fy nghalon yn mynd allan at ei ffrindiau, a'i deulu Rhodri a Conway."
Dywedodd un o sêr y gyfres Downton Abbey, Joanne Froggatt nad oes "dim geiriau i gyfleu fy emosiynau".
"Mae'n ddrwg iawn gen i am eich colled a'r galar y mae'n rhaid eich bod chi'n ei deimlo," meddai wrth ei deulu ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Rwyf wedi fy nharo'n llwyr gan golled ein ffrind hardd, roedd yn fwy na ffrind, roedd yn llawenydd ac yn fywyd ac yn dalent ac yn garedigrwydd ac yn hwyl, roedd yn bopeth ac ni all fy ymennydd ddeall na chawn ei gofleidio eto.
"Beth fyddwn i'n ei roi am un cwtsh arall. Rydych chi am byth yn ein calonnau cariad."
'Ffrind caredig'
Ychwanegodd Sophie Evans, a wnaeth ei hymddangosiad cyntaf ar lwyfan yn y West End yn ei harddegau pan gymerodd rôl Dorothy yn The Wizard of Oz: "Rwy'n anfon cymaint o gariad atoch chi. Gwnaeth i fy amser yn Llundain deimlo'n fwy fel cartref. Y ffrind mwyaf caredig."
Mewn teyrnged iddo yn cyhoeddi'r newyddion am ei farwolaeth, dywedodd brawd Owain, Rhodri a'i dad, Conway, fod Owain wedi "effeithio ar fywydau cymaint o bobl."
"Gyda thristwch mawr, mae fy nhad a finnau yn rhannu'r newyddion bod fy mrawd, Owain, wedi marw," meddai'r teulu.
"Roedd cyfeillgarwch, cariad a charedigrwydd Owain yn eang. Mae'r negeseuon niferus rydym wedi eu derbyn dros y dyddiau diwethaf yn dystiolaeth o'r effaith y cafodd ar fywydau cymaint."
Ychwanegodd y teulu: "Roedd Owain yn ffodus iawn i gael mwy nag un teulu. Ochr yn ochr â'i deulu biolegol, roedd ganddo berthynas deuluol gyda'i ffrindiau agosaf, ei gydweithwyr a'r rhai oedd yn ei garu.
"Dwi'n hynod falch ei fod yn frawd i gymaint o bobl eraill, yn ogystal ag yn frawd i mi.
"Rydym yn gwybod y bydd ei golled yn enfawr i lawer o bobl, ac mae'n gysur gwybod faint yr oedd yn cael ei garu."
