Peilonau: Hysbysiad cwmni ynni gwyrdd i gael mynediad i dir yn 'rhy eang' medd yr Uchel Lys

Arwydd yn erbyn peilonau

Roedd cwmni ynni gwyrdd sy'n bwriadu codi peilonau trydan newydd yng Nghymru wedi rhoi hysbysiad a oedd yn "rhy eang" wrth geisio cael mynediad i dir ffermwr, yn ôl barnwr yn yr Uchel Lys.

Fe wnaeth Natalie Barstow, ar ran yr elusen Ymgyrch dros Ddiogelu Cymru Wledig a'r Land Justice Coalition, gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Green GEN Cymru ynglyn â'r ffordd yr oedd y cwmni yn gwneud eu gwaith.

Mewn gwrandawiad ym mis Ebrill, dywedodd cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr nad oedd y cwmni wedi rhoi hysbysiad priodol cyn ymweld â thir ffermwyr, ac nad oedd wedi cymryd camau digonol i atal lledaeniad clefydau. 

Yn ôl yr ymgyrchwyr, roedd hynny'n peri risg i fywoliaethau a rhywogaethau gwarchodedig.

Mae Green GEN Cymru, sy'n rhan o grŵp Bute Energy, yn bwriadu adeiladu tri llwybr newydd ar gyfer peilonau trydan ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys, gan gysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy â'r grid yng Nghymru ac yn Sir Amwythig.

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy i ddiwallu anghenion trydan Cymru erbyn 2035, ond mae rhai wedi cwestiynu a yw’r targed hwnnw’n debygol o gael ei gyflawni.

'Rhy eang ac yn brin o fanylder'

Mewn dyfarniad ddydd Llun, daeth Mr Ustus Kimblin i'r casgliad fod Green GEN Cymru wedi rhoi hysbysiad i Ms Barstow, ond bod yr hysbysiad hwnnw yn "rhy eang ac yn brin o fanylder".

"Roedd yn hysbysiad safonol nad oedd yn ystyried yr amgylchiadau a oedd yn berthnasol i'r tir nac i'r perchnogion a'r deiliaid," meddai.

Dywedodd y barnwr hefyd na chafodd unrhyw gamau eu cymeryd o dan yr hysbysiad hwnnw "heblaw am fynediad bach ac anfwriadol" i'w thir ym mis Gorffennaf 2025.

Ychwanegodd Mr Ustus Kimblin nad oedd Green GEN wedi gwneud camgymeriad o dan gyfraith amgylcheddol wrth ystyried pryderon bioddiogelwch, er eu bod wedi "methu mynd i'r afael â'r risg o drosglwyddo" TB buchol.

Daeth i'r casgliad hefyd fod yn rhaid i'w cwmni roi hysbysiad i bob perchennog tir neu ddeiliad, ac na all datblygwyr ddibynnu ar hysbysiadau a gafodd eu rhoi fisoedd neu flynyddoedd ynghynt i gael mynediad i dir. 

Ychwanegodd: "Mae hynny'n golygu eu bod yn manteisio'n llawn ar yr hawl i gael mynediad heb ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ystyried yn briodol beth sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau."

Image
Dim peilonau

Dywedodd Mary Smith, cyfreithiwr gyda New South Law, sy'n gweithredu ar ran dros 500 o ffermwyr, busnesau a thirfeddianwyr lleol, bod y dyfarniad yn "foment bwerus i gannoedd o bobl leol".

Ychwanegodd: "Mae eich cartref yn noddfa. Mae'r noddfa honno wedi cael ei tharfu dro ar ôl tro gan gwmni ynni... 

"Ni ddylai fod wedi bod yn angenrheidiol i grŵp cymunedol ac elusen ddod ag achos yn yr Uchel Lys ar ran cannoedd o dirfeddianwyr a deiliaid er mwyn sicrhau bod datblygwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith.

"Dylai fod rheoleiddio digonol ar waith i lywodraethu ymddygiad cwmnïau ynni ac i ddiogelu'r cyhoedd."

Image
Peilonau

Cafodd y cais am adolygiad barnwrol ei gyflwyno ar y cyd gan y grŵp Cyfiawnder i Gymru a'r elusen Ymgyrch dros Ddiogelu Cymru Wledig.

Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n gwrthwynebu prosiectau ynni adnewyddadwy, ond yn hytrach y ffordd y mae’r prosiectau’n cael eu gweithredu.

Maen nhw'n honni bod cynrychiolwyr Green GEN Cymru wedi ymddwyn yn ymosodol wrth fynd ar dir preifat heb ganiatâd na rhybudd ymlaen llaw, ac wedi gwneud hynny gyda theiars ac esgidiau budr, gan beri risg o ledaenu clefydau fel TB buchol.

Ym mis Ionawr, dywedodd Natalie Barstow, sylfaenydd Cyfiawnder i Gymru, eu bod yn "brwydro dros yr hyn sy'n iawn".

"Ers misoedd, rydym wedi teimlo'n anniogel yn ein cartrefi, ac wedi colli ein pŵer fel ffermwyr a thirfeddianwyr," meddai.

"Nid protest yw hon yn erbyn ynni adnewyddadwy; rydym yn brwydro dros yr hyn sy'n iawn. Ein hawliau i gael ein trin gydag urddas, a chael llais, ac ar gyfer dyfodol ein tir, bywyd gwyllt a'n bywoliaeth."

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Green GEN Cymru.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.