Sir Benfro: Llys yn clywed bod bachgen ysgol wedi cau drws dosbarth cyn ymosod ar athrawes

Ysgol Aberdaugleddau

Fe wnaeth bachgen 15 oed gau drws ystafell ddosbarth yn Sir Benfro cyn ymosod ar athrawes hanes â chyllell, clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Mae’r bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, eisoes wedi gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio Vicki Williams yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ym mis Chwefror.

Ddydd Llun fe glywodd rheithgor fod y disgybl, sydd bellach yn 16 oed, wedi ei gyhuddo o drywanu yr athrawes yn ei phen.

Dywedodd Christopher Rees, ar ran yr erlyniad, fod y bachgen wedi cynnal “ymosodiad parhaus” ar Ms Williams.

Fe fyddai wedi parhau pe na bai’r athrawes wedi cymryd y gyllell oddi arno, meddai.

Dywedodd Mr Rees wrth y rheithgor: “Fe wnaeth [y bachgen] drywanu Vicki Williams yn fwriadol yn ei phen a pharhau â’r ymosodiad.

“Dadl yr erlyniad yw ei fod yn bwriadu lladd Vicki Williams.

“Byddai [y bachgen] wedi parhau â’r ymosodiad hwn oedd yn ymgais i lofruddio pe na bai Vicki Williams wedi gafael yn y gyllell a gwthio [y bachgen] i ffwrdd.”

'Clychau larwm'

Wrth agor yr achos, dywedodd Mr Rees fod y bachgen wedi mynd i mewn i ystafell ddosbarth Ms Williams tua 15.00 ar 5 Chwefror.

Clywodd y llys fod y disgybl wedi mynd at ei desg a gofyn iddi wirio rhywfaint o’i waith.

Roedd o wedi cau y drws i’r ystafell ddosbarth, a oedd fel arall yn wag, gan ddweud ei fod yn oer.

Bryd hynny fe ddechreuodd “clychau larwm” ganu yn ei phen.

Clywodd y rheithgor fod y disgybl wedi tynnu cyllell gegin fawr o’i fag, gan ei tharo yn ei phen.

Clywodd y llys fod hynny wedi arwain at “frwydr dreisgar”, lle’r oedd Ms Williams yn “sgrechian nerth ei phen”, cyn llwyddo yn y pen draw i gymryd y gyllell oddi arno.

Fe wnaeth y bachgen redeg allan o’r ysgol ond cafodd ei arestio’n ddiweddarach yng nghartref aelod o’r teulu.

Fe aeth Ms Williams i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, gyda chlwyf i’w phen, crafiadau ar ei chefn a mân friwiau ar ei dwylo.

'Casineb pur'

Dywedodd Mr Rees: “Dadl yr erlyniad yw bod y digwyddiad cyfan wedi ei gynllunio gan [y disgybl].

“Fe wnaeth [y bachgen] gau’r drws oherwydd ei fod eisiau ynysu Vicki Williams er mwyn gallu ymosod arni.”

Dywedodd Ms Williams wrth yr heddlu yn ddiweddarach mewn cyfweliad nad oedd wedi dweud dim pan “neidiodd tuag ati”.

Dywedodd Mr Rees: “Dywedodd nad oedd hi erioed wedi gweld llygaid tebyg.

“Fe ddisgrifiodd yr olwg ar ei wyneb fel un o gasineb pur.”

Dywedwyd wrth y rheithgor fod y bachgen wedi cyfaddef i fod â chyllell gegin yn ei feddiant ar dir yr ysgol.

Dywedodd Mr Rees: “Achos yr amddiffyniad yw nad oedd [y bachgen] yn bwriadu lladd nac achosi niwed corfforol difrifol, nac ychwaith ymosod ar Vicki Williams.

“Ei amddiffyniad yw bod yr anafiadau hyn wedi cael eu hachosi’n ddamweiniol pan, yn ôl achos yr amddiffyniad, fe wnaeth [y bachgen] wrthod rhoi’r gyllell i Vicki Williams pan ofynnodd hi iddo wneud hynny.”

Mae’r bachgen wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, clwyfo’n anghyfreithlon a chlwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae’r achos yn Llys y Goron Abertawe yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.