Dyn busnes o Aberystwyth yn rhan o ddadl gyfreithiol dros grys Cwpan y Byd Bobby Moore
Mae dyn busnes o Aberystwyth wedi dweud nad yw'r crys enwog a wisgodd y pêl-droediwr Bobby Moore yn rownd derfynol Cwpan y Byd yn 1966 ganddo.
Daw ei sylwadau wrth i gyn-wraig Bobby Moore, Tina Moore, gyflwyno hawliad cyfreithiol yn yr Uchel Lys yn erbyn Neville Evans, casglwr crysau pêl-droed o Gomins-coch.
Mae hi’n ceisio adennill y crys coch a wisgodd ei chyn-ŵr wrth arwain Lloegr i fuddugoliaeth enwog yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn Wembley.
Mae rhai amcangyfrifon yn rhoi gwerth o tua £1 miliwn ar y crys.
Nid yw Tina Moore yn honni bod Mr Evans wedi dod i feddiant y crysau drwy ddull anghyfreithlon nac mewn ffydd ddrwg.
Ei dadl yw mai hi yw eu perchennog cyfreithiol ac felly y dylent gael eu dychwelyd iddi.
Os nad yw hynny’n bosib, mae hi’n ceisio iawndal neu orchymyn arall gan y llys.
Crys Pelé
Mae’r hawliad cyfreithiol hefyd yn ymwneud â’r crys melyn a wisgodd Pelé mewn gêm Cwpan y Byd rhwng Brasil a Lloegr yn 1970.
Mae Tina Moore yn honni bod un neu’r ddau grys ym meddiant Mr Evans, neu wedi bod yn ei feddiant yn y gorffennol.
Yn ôl adroddiad yn The Daily Mail ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Evans nad yw crys Bobby Moore ganddo.
Gwadodd hefyd fod unrhyw grys y mae’n berchen arno wedi dod i’w feddiant mewn ffordd anghyfreithlon neu amhriodol.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Mr Evans am ymateb.
Dau grys hanesyddol
Gwisgodd Bobby Moore y crys coch yn rownd derfynol Cwpan y Byd 1966.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, cyfnewidiodd grysau â Pelé ar ôl i Brasil guro Lloegr 1-0 yng ngêm grŵp Cwpan y Byd.
Yn ôl yr hawliad, rhoddodd Moore ei gasgliad o eitemau cofiadwy pêl-droed i Tina ar ôl i’r cwpl wahanu tua 1981.
Mae’r dogfennau’n dweud iddo adael cartref y teulu gyda bag o’i eiddo, gan ddweud bod popeth oedd yn weddill yn y tŷ i Tina ei gadw.
Roedd y ddau grys ymhlith yr eitemau oedd yn aros yn y cartref, meddai’r hawliad.
Cafodd y casgliad ei symud i fanc tua 1994 er mwyn ei gadw’n ddiogel.
Ond wrth baratoi i werthu’r rhan fwyaf ohono i West Ham United yn 2000, sylweddolodd Tina Moore nad oedd y ddau grys yno.
Mae hi’n dweud nad yw’n gwybod beth ddigwyddodd i’r crysau, ond ei bod yn credu eu bod naill ai wedi mynd ar goll neu wedi cael eu cymryd.
Crysau’n dod i’r fei
Yn ôl y dogfennau llys, ni chlywodd Tina Moore unrhyw beth arall am y crysau tan 2021.
Bryd hynny, cysylltodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, yr FA, â hi a’i merch, Roberta, ynglŷn â llyfr ar hanes crysau tîm Lloegr.
Roedd Neville Evans yn un o awduron Three Lions on a Shirt: The Official History of the England Football Jersey.
Dywed yr hawliad fod y teulu wedi cael gwybod bod crys 1966 wedi dod yn ôl i’r amlwg ar ôl i unigolyn ei brynu fel rhan o gasgliad mewn arwerthiant yn ymwneud ag ystâd person dienw oedd wedi marw.
Roedd disgwyl i drafodaeth am y crys ymddangos yn y llyfr.
Ond ar ôl i Tina Moore a’i merch godi cwestiynau, rhoddodd y person oedd â’r crys y gorau i gydweithio ar y llyfr.
Mae’r hawliad yn dweud bod yr FA wedi hysbysu’r teulu bod crys Bobby Moore wedi cael ei ddilysu gan yr arbenigwr crysau pêl-droed Simon Shakeshaft.
Mae Tina Moore hefyd yn honni iddi gael gwybod bod crys Pelé ym meddiant yr un unigolyn.
Hawliad Llys
Mae’r dogfennau’n dweud bod cyfreithwyr Tina Moore wedi ysgrifennu at Mr Evans ym mis Tachwedd 2024, gan ofyn iddo gadarnhau a oedd ganddo’r naill grys neu’r llall.
Ymatebodd cwmni cyfreithiol ar ei ran gan ddweud y byddai ymateb manylach yn dilyn, yn ôl yr hawliad.
Mae cyfreithwyr Tina Moore yn dweud na chafwyd yr ymateb hwnnw.
Llun: IMAGO/BSR Agency drwy Reuters Connect