Ceredigion: Cyhuddo dyn lleol o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn ifanc
Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol wedi i ddyn 20 oed ddioddef anafiadau difrifol mewn ymosodiad yng Nghei Newydd, Ceredigion, yn oriau mân fore Sadwrn 4 Gorffennaf.
Mae Ciaran McConnell, 37 oed, sydd o Gei Newydd hefyd wedi ei gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd yn ddiweddarach dydd Llun.
Mae dioddefwr yr ymosodiad honedig yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi ymateb i'r ymosodiad a ddigwyddodd ar Stryd Margaret yn arwain ar Sgwâr Uplands yn y dref am tua 00:51 fore Sadwrn.
Fe gafodd y dyn 20 oed ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Mae'r dyn sydd wedi ei gyhuddo yn parhau yn y ddalfa.
Ychwanegodd y llu fod ymholiadau yn parhau, ac yn cael eu harwain gan yr Adran Ymchwiliadau Troseddol a bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20260704-028.
Mae nhw'n apelio ar unrhyw un a allai fod â recordiadau o gamera drws, CCTV neu gamerâu diogelwch eraill o'r ardal, rhwng 00.50 a 05.20 ddydd Sadwrn i gysylltu gyda swyddogion.
Llun: Google
