Cwpan y Byd: Lloegr yn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf

Lloegr Mecsico

Fe wnaeth Lloegr sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 2026 yn dilyn buddugoliaeth gampus o 2-3 yn erbyn Mecsico nos Sul (amser lleol).

Roedd 'na ddyfalu y byddai uchder stadiwm yr Estadio Azteca o lefel y môr yn Ninas Mecsico, a berw gwyllt y gefnogaeth leol yn creu anfantais i'r ymwelwyr ar y noson.

Roedd 'na oedi am awr cyn y chwiban gyntaf o achos stormydd, ac roedd digwyddiadau ar y cae yn rhai tymhestlog hefyd o flaen torf o 80,824.

Daeth y fantais gyntaf i'r Saeson gyda Jude Bellingham yn rhwydo wedi 36 o funudau - cyn dyblu mantais Lloegr ddau funud yn ddiweddarach.

Fe gipiodd Mecsico gôl yn ôl ychydig cyn yr hanner, gyda Quiñones yn rhwydo wedi 42 o funudau i'w gwneud hi'n 1-2 i Loegr ar yr hanner.

Aeth yr ymwelwyr i lawr i 10 dyn 10 munud wedi dechrau'r ail hanner - Jarell Quansah yn derbyn cerdyn coch am ei dacl ar Jesus Gallardo.

Ond fe lwyddodd dynion Thomas Tuchel i gynyddu eu mantais i ddwy gôl unwaith eto ar ôl i Harry Kane sgorio cic o'r smotyn wedi awr o chwarae.

Daeth llygedyn o obaith i Mecsico ar ôl 69 o funudau, gyda Raul Jimenez yn sgorio cic o'r smotyn i'r tîm cartref.

Ond y Saeson aeth a hi ar ddiwedd y gêm, gyda Norwy yn wrthwynebwyr iddynt yn rownd yr wyth olaf ar ôl i Erling Haaland chwarae rhan allweddol ym muddugoliaeth Norwy yn erbyn Brasil o 1-2.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Lloegr

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.