Cynnal agoriad cwest i farwolaeth merch 14 oed o ardal Abertyleri

Lilly Blaina

Fe fydd agoriad cwest i farwolaeth merch 14 o'r de yn cael ei gynnal fore dydd Llun.

Fe gafwyd hyd i gorff Lilly Jones yn dilyn adroddiadau ei bod ar goll ar 22 Mehefin yn nhref Blaenau ger Abertyleri.

Mae bachgen 14 oed wedi ei gyhuddo o'i llofruddio, ac fe fydd yn ymddangos yn y llys yn ddiweddarach eleni.

Fe wnaeth y diffynnydd, nad oes modd ei enwi o achos ei oedran, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fore dydd Llun diwethaf wedi'i gyhuddo o lofruddio Lilly.

Bydd agoriad ffurfiol y cwest yn cael ei gynnal am 09:00 yng Nghasnewydd dan ofal Gwasanaeth Crwner Gwent a'r Uwch Grwner Caroline Saunders.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.