Carcharu dyn 'hynod beryglus' am lofruddio dyn mewn tân

Andrew Gorrell

Mae dyn o ogledd Cymru wedi ei garcharu am gynnau tân angheuol yng nghanolbarth Lloegr fis Mai y llynedd.

Bu farw John Edwards, 82 oed, yn ei gartref ar 11 Mai ar Ffordd Caergybi yn Wednesbury, ger Wolverhampton.

Roedd dau o feibion Mr Edwards mewn coma am gyfnod yn dilyn y tân. Bu farw Mr Edwards yn yr ysbyty bythefnos yn ddiweddarach.

Cafodd Andrew Gorrell, 55 oed, o Saltney, Sir y Fflint ei ddedfrydu i oes o garchar yn Llys y Goron Wolverhampton ddydd Llun.

Fe fydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 25 o flynyddoedd dan glo cyn y bydd yn gallu gwneud cais am barôl.

Roedd wedi ei gael yn euog ym mis Chwefror o lofruddio, dau gyfrif o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, ymgais i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a chynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Rhoi bin ar dân

Roedd Gorrell wedi rhoi bin olwyn ar dân, gyda'r bin wedi ei osod ger drws yr adeilad i atal pobl rhag dianc.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Michael Chambers KC fod gweithredoedd Gorrell ar y diwrnod, a’i euogfarn flaenorol am losgi bwriadol, yn dangos ei fod yn “unigolyn hynod beryglus” oedd â diddordeb mewn tân.

Dywedodd y barnwr wrth Gorrell: “Mae deffro yn ystod y nos a darganfod bod eich cartref ar dân yn hunllef byw.”

Dywedodd y barnwr fod datganiadau personol gan aelodau o’r teulu - gan gynnwys un o wyrion Mr Edwards - yn dangos bod effaith gweithredoedd Gorrell yn “syfrdanol o erchyll”.

Dedfryd flaenorol

Dywedodd Rachel Brand KC ar ran yr erlyniad fod Gorrell, a oedd yn ei arddegau hwyr ar y pryd, wedi cael dedfryd o garchar am 12 mis ym 1990 yn Llys y Goron Knutsford, Sir Gaer am roi clwb ar dân tra oedd yn gweithio yno fel casglwr gwydrau.

Clywodd y llys fod gan Gorrell hanes hir o gamddefnyddio alcohol a’i fod wedi bod yn yfed cyn cychwyn y tân angheuol a thri thân arall mewn biniau olwynion gerllaw ar y noson dan sylw ym mis Mai.

Dywedodd y barnwr wrth Gorrell yn y llys: “Fe ddioddefodd y rhai oedd yno anafiadau poenus, ac yn y pen draw, mewn perthynas â John Edwards, marwolaeth.

“Cyn iddo farw cafodd brofiad erchyll.

“Mae arnaf ofn nad wyf wedi fy argyhoeddi fod llawer o edifeirwch na difaru mewn perthynas â’r hyn a ddigwyddodd.

“Yn amlwg, ymosodiad ar hap oedd hwn a nid yw'r union reswm amdano yn glir.”

Wrth iddo gael ei arwain allan o’r doc, diolchodd Gorrell i’r barnwr a throdd at aelodau’r teulu, gan ddweud: “Mae’n ddrwg iawn gen i.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.