Llantrisant: Cyfle i ymwelwyr i'r Bathdy Brenhinol ddathlu 75 mlynedd o Dennis the Menace
Bydd modd i ymwelwyr i'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant greu darn arian 50c Dennis the Menace eu hunain o ddiwedd y mis ymlaen.
Mae darnau arian newydd wedi cael eu creu i ddathlu 75 mlynedd ers creu'r cymeriad sy'n ymddangos yn y comic Beano.
Mae'r darnau arian 50c yn gydweithrediad rhwng y comic Beano a'r Bathdy Brenhinol ac yn cynnwys delweddau lliw o'r cymeriad poblogaidd yn gwisgo ei dop streipiog coch a du gyda'i gi Dannedd.
Cafodd cymeriad Dennis ei gyflwyno am y tro cyntaf ar 17 Mawrth 1951 yn rhifyn 452 o Beano.
Cyhoeddwyd y comic gyntaf gan gwmni DC Thomson, sydd wedi'i leoli yn Dundee, ar 30 Gorffennaf 1938.
Dros gyfnod o 87 mlynedd mae Beano wedi diddanu cenedlaethau o blant, gyda chymeriadau hefyd yn cynnwys Minnie the Minx, Roger the Dodger a'r Bash Street Kids.
Dywedodd Rebecca Morgan, cyfarwyddwr darnau arian coffaol y Bathdy Brenhinol: "Mae rhywbeth hynod addas am y cymeriad drygionus hwn yn gwneud ei farc o'r diwedd ar ddarn 50c casgladwy ac rwy'n siŵr y byddai Dennis ei hun yn ei weld fel ei jôc fwyaf eto.
"Mae'r darn arian hwn yn cynrychioli popeth rydyn ni'n ei garu amdano, ei wên ddireidus, ei ffrind blewog Dannedd wrth ei ochr a'r ysbryd gwrthryfelgar anorchfygol sydd wedi'i wneud yn ffefryn ar draws cenedlaethau.
"Rydyn ni'n hynod falch o ddod â Dennis yn fyw yn y ffordd hon, ac rydyn ni'n gwybod y bydd y darn arian yn cael ei drysori gan gefnogwyr hen ac ifanc Beano."
Dywedodd Rob Glenny, cyfarwyddwr gweithredol twf a datblygu cynhyrchion newydd yn Beano Studios: "Mae gan Dennis ddawn erioed i droi i fyny lle rydych chi leiaf yn ei ddisgwyl, ac rydym yn gyffrous iawn ei fod bellach wedi glanio ar ddarn arian 50c.
"Gyda Dannedd wrth ei ochr, mae’r darn arian hwn yn dal y sbarc amlwg sydd wedi cadw Dennis yng nghanol plentyndod ers cenedlaethau."
Bydd modd prynu'r darnau arian arbennig o wefan y Bathdy Brenhinol am 09:00 ddydd Iau, gyda phrisiau’n dechrau 0 £15.
Bydd modd i ymwelwyr i'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant greu eu darn arian Dennis the Menace eu hunain o 26 Chwefror ymlaen.
