Hanner plant 10 ac 11 oed Cymru'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Ffon plentyn

Mae hanner y plant ym mlwyddyn chwech mewn ysgolion cynradd yng Nghymru - sef oedran 10 i 11 oed - eisoes yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yn ôl arolwg newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y ffigyrau gan Rwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion gan Brifysgol Caerdydd yn peri pryder iddynt.

Roedd 53.3% o ferched blwyddyn chwech yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol a 49.7% o fechgyn yn gwneud hynny.

Roedd 20.4% o fechgyn a 18.6% o ferched yn eu defnyddio ym mlwyddyn tri, ac mae’r nifer yn codi bob blwyddyn wrth i blant symud ymlaen drwy'r ysgol gynradd.

Yn ogystal â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol, roedd tri chwarter o blant yr oedran dan sylw yn berchen ar ffonau clyfar. 

Image
newyddion

Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru y gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol gael effaith negyddol ar iechyd meddwl rhai plant. 

“Gall ymgysylltu’n aml gynyddu pwysau cymdeithasol canfyddedig a chymariaethau cymdeithasol a all effeithio’n negyddol ar les a delwedd y corff,” meddai. 

“Mae bod ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â pherygl o ddod i gysylltiad â chynnwys niweidiol a chyswllt amhriodol ag oedolion, ac mae plant ifanc yn llai abl i benderfynu beth yw cyswllt priodol neu asesu risgiau posibl. 

“Mae cysylltiad â nodweddion caethiwus, fel sgrolio diddiwedd, a all ymestyn yr amser y mae plant yn ei dreulio ar apiau, yn eu tynnu i ffwrdd o weithgareddau eraill, fel gweithgarwch corfforol neu hobïau a diddordebau eraill. 

“Mae pryderon cynyddol hefyd y gallai nodweddion caethiwus ddylanwadu ar ddatblygiad yr ymennydd ac ymddygiadau fel rheoli ysgogiad a chyfnod canolbwyntio."

‘Cefnogi’

Ddydd Llun fe wnaeth Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, gyhoeddi y bydd plant dan 16 oed yn cael eu gwahardd rhag defnyddio amrywiaeth o gyfryngau cymdeithasol.

 Mewn cynhadledd i’r wasg, cyhoeddodd Syr Keir y byddai’r gwaharddiad yn dod i rym “yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn nesaf”.

Dywedodd na fyddai’n cyfaddawdu ar “ddiogelwch a hapusrwydd ein plant”.

Dywedodd Lorna Bennett ei bod hi’n credu bod gwneud hynny yn “gam pwysig”.

“Byddem yn cynghori rhieni a gofalwyr i fonitro’n ofalus a chyfyngu ar ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol ymhlith plant ifanc yn unol â chyfyngiadau’r platfformau, ac i sicrhau bod plant yn profi amrywiaeth o wahanol weithgareddau y tu allan i oriau ysgol,” meddai.

Awgrymodd yr arolwg hefyd fod mwy o blant ysgol gynradd yn berchen ar ffonau clyfar wrth iddynt fynd yn hŷn, gyda thua 39% o blant ym mlwyddyn tri (saith i wyth oed) yn berchen ar ffôn clyfar a mwy na thri chwarter ym mlwyddyn chwech (75% o fechgyn a 77.2% o ferched).  

500 o ysgolion

Cwblhaodd dros 50,000 o blant o fwy na 500 o ysgolion cynradd ym mhob rhan o Gymru yr arolwg, gan ei wneud yr arolwg mwyaf o iechyd a lles plant oedran cynradd yng Nghymru.   

Gofynnodd yr arolwg i blant a oeddent wedi defnyddio safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, Tiktok, Snapchat neu Facebook, ac os oeddent wedi gwneud hynny pa mor aml roeddent yn tueddu i'w defnyddio bob wythnos.  

Mae'r rhan fwyaf o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mawr yn gosod isafswm oedran o 13 ar gyfer defnyddwyr.   

Dywedodd Dr Kelly Morgan, Cyfarwyddwr Rhwydwaith SHRN, sydd wedi'i leoli yng nghanolfan DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd: 

“Mae’r canfyddiadau hyn, sydd wedi’u gosod o fewn cyd-destun ehangach lle mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio dyfeisiau digidol yn rheolaidd ar gyfer adloniant, yn tynnu sylw at fater sydd angen ei fonitro’n barhaus mewn amgylchedd digidol sy’n newid yn gyflym. 

“Mae SHRN yn casglu gwybodaeth ar amrywiaeth eang o feysydd sy'n ymwneud ag iechyd a lles plant. Mae'r data cadarn, ar lefel genedlaethol hwn yn helpu ysgolion i ddeall profiadau eu dysgwyr yn well. 

“Bwriad y mewnwelediadau yw cefnogi athrawon, a’u galluogi i ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg a chryfhau'r gefnogaeth maen nhw'n ei chynnig i blant a phobl ifanc.”   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.