Y gorsafoedd pleidleisio i agor yn is-etholiad Makerfield

Blwch pleidleisio

Bydd y gorsafoedd pleidleisio yn agor ar gyfer is-etholiad Makerfield yng ngogledd orllewin Lloegr fore dydd Iau.

Bydd y gorsafoedd ar agor rhwng 07.00 a 22.00, gyda disgwyl canlyniad fore Gwener.

Mae’r bleidlais yn cael ei chynnal yn sgil ymddiswyddiad yr AS Llafur Josh Simons.

Mae 14 ymgeisydd yn sefyll, gyda’r prif bleidiau i gyd yn cael eu cynrychioli.

Dyma restr lawn yr ymgeiswyr yn yr is-etholiad:

  • Annibynnol - Paul Gould
  • Annibynnol - Robert Pownall
  • Annibynnol John Dyer
  • Ceidwadwyr - Michael Winstanley
  • Climate - Ed Gemmell
  • Democratiaid Rhyddfrydol - Jake Austin
  • Libertarian - Dan Clarke
  • Llafur a’r Blaid Gydweithredol - Andy Burnham
  • Monster Raving Loony Party - Howling Laud Hope
  • Plaid Count Binface - Count Binface
  • Reform - Robert Kenyon
  • Restore Britain - Rebecca Shepherd
  • Rejoin EU - Peter Ward
  • Y Blaid Werdd - Sarah Wakefield

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.