America ac Iran yn llofnodi cytundeb i orffen eu rhyfela
Mae'r Arlywydd Donald Trump ac Arlywydd Iran, Masoud Pezeshkian, wedi arwyddo cytundeb heddwch cychwynnol i orffen yr ymladd rhwng eu dwy wlad.
Fe fydd y cytundeb yn cynnwys ailagor Culfor Hormuz, taliad o $300bn i Iran er mwyn ail-adeiladu difrod y rhyfel, a chodi'r sancsiynau ar y wlad.
Roedd Mr Trump wedi teithio i Evian-les-Bains, Ffrainc, ddydd Mercher ar gyfer cyfarfod o'r G7.
Yna fe deithiodd i Balas Versailles er mwyn cyfarfod gyda'r Arlywydd Emannuel Macron a'i wraig Brigitte.
Yn ystod swper hwyr yn y palas, fe arwyddodd Mr Trump ddogfen memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Iran a'r UDA.
Mae'r cytundeb bregus yma'n golygu y bydd yr ymladd yn dod i ben - ond nid yw'n ateb yr hyn sydd wedi cynddeiriogi cymaint ar Washington dros y misoedd diwethaf - sef gallu Tehran i gynhyrchu arfau niwclear.
Inline Tweet: https://twitter.com/WhiteHouse/status/2067393004239814711
Ymysg yr 14 o bwyntiau ar y ddogfen heddwch sydd wedi ei llofnodi gan y ddwy wlad mae codi blocâd llynges America ar Gulfor Hormuz, ac mae Iran wedi cytuno i beidio prynu unrhyw arfau niwclear.
Mae'r cytundeb hefyd yn rhoi "terfyn ar weithrediadau milwrol ar unwaith ac yn barhaol ar bob ffrynt, gan gynnwys yn Libanus."
Gallai hynny fod yn anoddach i'w weithredu o gofio am ymgyrchoedd milwrol diweddar Israel yn y rhanbarth.
O dan y cytundeb, bydd llongau yn cael hwylio drwy Gulfor Hormuz yn ddi-doll yn ystod y cyfnod cychwynnol o 60 niwrnod.
Fe fydd y ddwy wlad yn ymrwymo i gyrraedd cytundeb terfynol yn y 60 niwrnod nesaf fel rhan o'r cytundeb heddwch sydd wedi ei arwyddo.
