'Mae'n galed bod yn ifanc': Y prosiect cymunedol wrth galon ffilm Effi o Blaenau
Mae 10 o ferched ifanc o Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog wedi bod yn helpu i sicrhau bod y film newydd Effi o Blaenau yn adlewyrchu bywydau pobl ifanc y dref.
Fel rhan o brosiect cymunedol Llais Effi, mae'r merched wedi bod yn cydweithio ag artistiaid lleol i rannu eu profiadau.
Cafodd Effi o Blaenau ei chyfarwyddo gan Marc Evans, ac mae'n seiliedig ar ddrama Gary Owen, Iphigenia in Splott.
Wedi'i lleoli ym Mlaenau Ffestiniog, mae'r ffilm yn dilyn Effi, merch ifanc sy'n byw mewn tref sydd wedi'i tharo'n galed gan golli diwydiant a chyfleoedd.
Wrth i'w bywyd gymryd tro annisgwyl, mae'r stori'n edrych ar effaith tlodi a gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau.
Yn ystod y prosiect, roedd yr artistiaid yn cynnal gweithdai wythnosol gyda’r merched i ddysgu mwy am yr heriau sy’n eu hwynebu.
Un o artistiaid Llais Effi oedd Gwennan Mair.
"Pan mae prosiectau fel hyn yn digwydd mewn lleoliad fel Blaenau, mae cydweithio efo’r gymuned yn goro digwydd," meddai wrth siarad â Newyddion S4C yn ystod lansiad y ffilm yng Nghanolfan CellB nos Fercher.
"A dwi 'di cael y fraint o gydweithio efo 10 o bobl ifanc anhygoel o'r dref ac mewn ffordd trio magu hyder nhw i sylweddoli pa mor class ydyn nhw."
Yn ôl Gwennan, daeth "themau mawr" i'r amlwg wrth drafod yr heriau sy'n wynebu merched yng nghefn gwlad Cymru.
"Mae’n galad bod yn berson ifanc dyddiau yma, mae ‘na lot o heriau, mae ‘na lot o bwysau," meddai.
"A mewn ffordd, dwi’n meddwl bod ni angen rhoi mwy o gyfleoedd i ferched gael lle i drafod yn saff am hunan hyder, am y pressure o fywyd ac yn enwedig cydweithio efo artistiaid sydd hefyd yn dod o’r ardal."
Roedd y gwneuthurwr ffilmiau Gwenno Llwyd Till, sy'n dod o Nant Gwynant, hefyd yn rhan o'r gweithdai.
"Mae ‘di bod yn rili neis a hwyl siarad i merched ifanc a sylwi faint o broblemau sy' gynno ni ymghlwm efo’n gilydd," meddai.
"Dwi’n 25 ac mae’r genod yn 15, ac mae lot o’r problemau maen nhw efo fel 15-year-olds dwi dal yn teimlo fatha rhywun yn ei hugeiniau."
Dywedodd Gwenno bod y problemau yn ymwneud yn bennaf â’r profiadau o fod yn ferch yn hytrach na’r ardal ei hun.
"Doedd na’m lot o bethau rili penodol am yr ardal, oedd o lot mwy efo bod yn ferch a’r ansicrwydd ti’n teimlo hefyd yn tyfu i fyny," meddai.
"Problemau yn ysgol, lot o broblemau amdan stydio, lot o bethau i neud efo ysgol a lot o social pressure - ag oedd o’n rili neis gweithio efo’r un genod achos oddan nhw’n agor fyny i chdi fwy a fwy."
Dyfodol y cynllun
Er bod Effi o Blaenau bellach yn cael ei dangos yn y sinema, mae Gwennan yn gobeithio y bydd y prosiect cymunedol yn parhau.
"Y bwriad ydi cario ymlaen a chreu ryw fath o brosiect sy’n cysylltu efo Sblot yng Nghaerdydd, gan bod y prosiect yn wreiddiol wedi dod o’r ddrama yn seileidig ar fan 'na," meddai.
"Y gobaith ydi bod na fwy i ddod a bod y merched yma yn cael llais, a bod barn nhw yn bwysig a dyfodol nhw yn bwysig."
Mae Gwenno hefyd yn gobeithio y bydd y prosiect yn parhau, gan ychwanegu bod angen mwy o brosiectau o'r fath.
"Dwi’n meddwl y pethau gora posib 'sa ni’n gallu cael yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd fel hyn, ydi cyn gymaint o gelf a phosib, cyn gymaint o weithdai ffilm, crefft - wbath sy’n galluogi pobl ifanc i agor fyny yn emosiynol," meddai.
"Dwi’n meddwl bod o’n un o’r petha mwya pwysig alli di gael, pobl sy’n credu mewn pobl ifanc ag yn fodlon rhoi llais iddyn nhw a gwrando arnyn nhw."
Ychwanegodd: "Nhw ydi’r dyfodol, ac mae rhaid i chdi roi cyfle iddyn nhw."