Athro o Gaernarfon yn rhedeg 1km ar gyfer pob gôl yng Nghwpan y Byd
Mae athro o Gaernarfon wedi herio’i hun i redeg 1km am bob gôl yng Nghwpan y Byd eleni er mwyn codi arian i elusen iechyd meddwl.
Dechreuodd Matthew Roberts yr her drwy redeg 2km ar ôl buddugoliaeth Mecsico dros Dde Affrica, ac erbyn hyn mae wedi rhedeg 55km wrth i sêr gan gynnwys Mbappé a Messi ychwangu at gyfanswm yr her.
“Ma'r coesau'n grêt ar y funud ond dwi ddim isho temptio ffawd rhag ofn iddyn nhw waethygu," meddai wrth Newyddion S4C.
“Ond dwi di arfar redag trwy’r wsos bob wsos felly dio’m yn lawer o wahaniaeth, felly jyst pellteroedd bach hirach ella."
Mae Matthew yn codi arian i elusen Help Cymru, sydd yn cynnig cymorth i ddynion sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.
Wedi iddo ddioddef ei hun yn y gorffennol, mae Matthew yn gobeithio rhannu’r neges ei fod yn iawn i ddynion rannu a siarad am eu hiechyd meddwl.
“I ddeud y gwir dwi ‘di gael ychydig o brofiada’ iechyd meddwl fy hun ‘lly, a meddwl bod stigma efo dynion bod ni angan bod yn gry’ a ddim rhannu emosiwn," meddai.
“'Swn i’n hoffi newid y stigma yna mewn ffordd, a neud yn siŵr bod dynion yn gallu trafod a rhannu profiadau nhw.
“Ma' Help Cymru yn helpu dynion yn y wlad yma sydd yn wych."
Ers iddo ddechrau rhedeg dair blynedd yn ôl, mae Matthew wedi bod yn rhedeg pellteroedd 5km a 10km yn rheolaidd, ac mae’n paratoi i gymryd rhan ym Marathon Eryri ym mis Hydref.
Mae hefyd wedi bod yn cyhoeddi fideos o'i her ddyddiol yn y Gymraeg ar TikTok.
Ar y dechrau, roedd wedi newid y gosodiadau er mwyn i’w ffrindiau yn unig allu gwylio’r fideos, cyn penderfynu eu gwneud yn gyhoeddus.
“I gychwyn o'n i jyst yn neud nhw er mwyn i fy ffrinida ar TikTok gael gweld o, ond nes i roid nhw’n public wedyn, a o’dd fy ffôn ddim yn stopio’n buzian am ychydig," meddai.
“O’dd pobl yn likeio a dilyn a bob dim fel’na, a lot o blant yn yr ysgol yn deutha fi yn y dosbarth bod nhw di gweld TikToks fi.
“A ma’r ffordd dwi’n neud o yn cael ymwybyddiaeth allan yna at beth dwi'n codi pres tuag at sydd yn bwysig hefyd."