Disgwyl i David Chadwick ddod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru

David Chadwick

Mae disgwyl i Aelod Seneddol Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, David Chadwick, gael ei ethol yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar ol iddo roi ei enw yn yr het i olynu Jane Dodds.

Fel Aelod etholedig, Mr Chadwick yw'r unig un sy'n gymwys i fynd am y swydd ac felly ni fydd yr arweinyddiaeth yn cael ei herio'n ffurfiol.

Mae disgwyl iddo gael ei gadarnhau fel arweinydd ddydd Llun 16 Tachwedd, ar ôl i'r cyfnod enwebu ddod i ben.

Daw ei gyhoeddiad ar ôl i gyn-arweinydd y blaid Jane Dodds AS gyhoeddi y byddai'n ildio'r awenau ar ôl bron i naw mlynedd yn y rôl.

Mae Mr Chadwick, yn 35 oed ac fe gafodd ei ethol i Senedd San Steffan yn 2024. 

Fe yw llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gymru yn San Steffan. 

Wrth gyhoeddi ei fod yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth, nododd ei uchelgais i gryfhau'r economi yng Nghymru.

Mewn datganiad, fe ddywedodd David Chadwick bod gan Gymru botensial "enfawr", ond yn rhy aml, nad yw'r "cyfleoedd sydd ar gael i bobl" yn ddigonol:

“Rwyf am weld Cymru lle mae gwaith caled yn cael ei wobrwyo, lle mae gan fusnesau yr hyder i fuddsoddi a thyfu, a lle gall pobl ifanc fyw bywydau llwyddiannus heb deimlo bod yn rhaid iddyn nhw adael Cymru er mwyn symud ymlaen.

“Rwyf am ail-adeiladu Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fel grym gwleidyddol hyderus, sydd wedi’i wreiddio yn ein cymunedau ac sy’n gallu helpu i lunio dyfodol Cymru.

“Byddaf yn cyflwyno rhagor o fanylion am fy ngweledigaeth dros yr wythnosau nesaf, oherwydd rwy’n credu bod y dyddiau gorau eto o’n blaenau, i Gymru ac i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.” meddai.

Bydd yn rhaid i David Chadwick sicrhau 50 o enwebiadau gan aelodau'r blaid, er mwyn dod yn arweinydd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.