Bachgen 14 oed yn gwadu llofruddio merch ym Mlaenau Gwent
Mae bachgen 14 oed wedi gwadu llofruddio merch yn ei harddegau ar ôl iddi gael ei darganfod gydag anafiadau trywanu ym Mlaenau Gwent.
Cafodd corff Lilly Jones, a oedd hefyd yn 14 oed, ei ddarganfod yn nhref Blaenau, ger Abertyleri, ar 22 Mehefin.
Yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth, plediodd y diffynydd, nad oes modd cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth.
Bydd ei achos llys yn dechrau ar 23 Tachwedd, ac mae disgwyl iddo bara hyd at bedair wythnos.
Clywodd cwest cychwynnol ym mis Gorffennaf fod Lilly Jones wedi cael anafiadau i’w brest a’i gwddf.
Dywedodd y prif grwner, Caroline Saunders, fod archwiliad post-mortem wedi cael ei gynnal gan Dr Richard Jones, a’i fod wedi nodi achos dros dro y farwolaeth.
Dywedodd y crwner mai “clwyfau trywanu lluosog i’r gwddf a’r torso” oedd y casgliad a gafodd gan y patholegydd.
'Twll annirnadwy'
Mewn teyrnged i Lilly Jones, dywedodd ei theulu: “Fel teulu, nid yw’r gair ‘torcalon’ yn dod yn agos at yr hyn rydyn ni’n ei deimlo.
“Hoffem ganolbwyntio mwy ar Lilly a pha mor brydferth yw hi yn hytrach na’r peth erchyll y mae hi wedi gorfod ei ddioddef.
“Lilly yw’r ferch fach fwyaf prydferth, caredig a gofalgar y cawsom y fraint o’i galw’n ferch, chwaer, wyres, nith, cefnder a ffrind.
"Yn driw i'w hun, mae hi’n hynod ac yn hyderus, yn sassy ac yn ddramatig ac mae hi wrth ei bodd â’i cherddoriaeth.
“Aeth ei chwaeth eclectig mewn cerddoriaeth â ni o My Chemical Romance i Kate Bush a chanu pob gair ar dop ei llais, heb ymddiheuro.
“Gallem ysgrifennu llyfr am ba mor anhygoel yw hi gan dderbyn pob math o bobl, gan siarad dros unrhyw un oedd ei hangen.
"Mae ein colled wedi gadael bwlch nad oes modd ei amgyffred, nid yn unig yn ein bywydau ond yn y gymuned gyfan.
“Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r gymuned am eu cefnogaeth a’u rhoddion diddiwedd.”
