Jane Dodds i gamu i lawr fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Mae Jane Dodds AS wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr o'i swydd fel arweinydd plaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar ôl bron i naw mlynedd yn y rôl.
Bydd Ms Dodds, a gafodd ei hethol yn arweinydd ym mis Tachwedd 2017, yn parhau yn Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog Tawe Nedd.
Dywedodd y bydd hi hefyd yn ceisio cael ei hail-ethol yn 2030.
Cyn ymuno â byd gwleidyddiaeth, bu Ms Dodds yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol ym maes amddiffyn plant am dros 27 mlynedd.
Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad, dywedodd Jane Dodds AS wrth ITV fod yna “dau brif reswm”.
“Un yw fy mod i eisiau rhoi cyfle i’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gyflwyno eu syniadau ac arwain y blaid, ac rydw i eisiau bod yno i’w cefnogi," meddai.
“Ac mae’r ail yn un personol iawn, sef fy mod i wedi dod i mewn i wleidyddiaeth er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant a helpu plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ac rydw i eisiau’r amser a’r lle i ganolbwyntio ar hynny.”
Gwrthododd awgrymiadau bod y ffaith mai hi yw unig Aelod o’r Senedd y Democratiaid Rhyddfrydol o hyd yn dangos bod ei chyfnod fel arweinydd wedi bod yn aflwyddiannus.
“Rydyn ni wedi cynyddu nifer y cynghorwyr," meddai.
"Rydyn ni wedi cael Aelod Seneddol wedi’i ethol ym Mrycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, felly mae hynny’n llwyddiant go iawn.
“Ac rydw i wedi cyflawni pethau. Rydw i wedi gweithio gyda’r llywodraeth Lafur, ac mae Senedd Cymru yn ymwneud â dod i gytundeb. Felly er mai dim ond fi sydd wedi bod yno, rydw i wedi gweithio gydag eraill.
“Dyna rydw i eisiau parhau i’w wneud, ac rydw i wedi sicrhau mwy o ofal plant, mwy o arian i ofal cymdeithasol, a’r pris tocyn bws o bunt.”
Daeth y berthynas rhyngddi hi ac arweinydd y blaid yn y DU, Syr Ed Davey, dan straen ar ôl iddo ddweud yn 2024 y dylai hi ystyried ei safle.
Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yn 2021, fe wnaeth Jane Dodds “gamgymeriad barn difrifol” drwy beidio cynnal cyfarfod i drafod achos cam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i'r Eglwys yn Lloegr
Dywedodd Jane Dodds yn 2024 fod y sefyllfa yn “gamgymeriad” ond ei bod wedi ymddiheuro ar y pryd, ac yn “ymddiheuro rŵan”.
Yn y cyfweliad ag ITV Cymru Wales, dywedodd Ms Dodds nad oedd dim o hynny wedi dylanwadu ar ei phenderfyniad.
“Ddim o gwbl. Mae Ed yn gwybod am fy mhenderfyniad i gamu i lawr a pheidio â rhoi fy enw ymlaen.
“I'r rhai sydd â diddordeb mawr mewn materion cyfansoddiadol, mae San Steffan yn gwneud ei benderfyniadau am arweinydd y blaid yno, ac mae Cymru’n gwneud ei phenderfyniad am arweinydd y blaid yma.
"Ac rydw i’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ges i. Yng Nghymru, roedd yr aelodau a’r arweinyddiaeth yn fy nghefnogi.”
Diolch am ei gwasanaeth
Dywedodd Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: "Rwy’n ddiolchgar iawn i Jane am ei naw mlynedd o wasanaeth fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
"Llwyddodd i sicrhau llwyddiannau mawr ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, gwasanaethau bysiau a diogelu afonydd.
"Rwy’n gwybod y bydd hi’n parhau i frwydro’n ddiflino dros ryddfrydiaeth a phobl Cymru. Diolch Jane!"
Dywedodd Tim Sly, llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Mae Jane wedi arwain ein plaid gydag urddas, penderfyniad ac uniondeb drwy rai o’r blynyddoedd mwyaf cythryblus yng ngwleidyddiaeth Cymru a’r DU.
"Mae hi'n gadael y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach yn ein cymunedau ac yn barod i adeiladu ar y gwaith hwnnw.
"Ar ran pob aelod, hoffwn ddiolch iddi am ei gwasanaeth eithriadol.”
David Chadwick AS yw’r unig unigolyn arall heblaw Jane Dodds AS sy’n gymwys i geisio enwebiad ar hyn o bryd.