BBC Scotland ar iPlayer yn unig fel rhan o doriadau pellach i'r gorfforaeth
Bydd y BBC yn rhoi’r gorau i ddarlledu BBC Scotland, BBC Three a BBC Radio 4 Extra ar deledu a radio traddodiadol yng ngwanwyn 2027.
Mae’n rhan o fesurau pellach i dorri costau, ar ôl cyhoeddi arbedion yn BBC Cymru, BBC Local, BBC News a gwasanaethau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.
Mae’r BBC yn dweud bod angen gwneud penderfyniadau anodd oherwydd y pwysau ariannol parhaus sy’n wynebu’r sefydliad.
Dywedodd y gorfforaeth bod rhaid iddo arbed £500 miliwn erbyn 2028.
Mewn neges i staff yn amlinellu’r newidiadau, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Matt Brittin: “Mae angen i ni wneud i bob punt weithio’n galetach dros gynulleidfaoedd wrth i ni ymateb i’r pwysau uniongyrchol ar gostau ac ailddyfeisio’r BBC ar gyfer byd sy’n newid.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod hynny’n golygu dewisiadau anodd.”
Bydd y newidiadau yn golygu:
- Bydd BBC Scotland yn parhau fel sianel ar iPlayer yn unig. Bydd cynnwys hefyd ar gael ar BBC One a BBC Two yn yr Alban.
- Bydd rhaglenni sy’n cael eu comisiynu gan BBC Three ar gael ar BBC iPlayer ac ar lwyfannau eraill, gan gynnwys YouTube. Bydd mwy o fuddsoddiad mewn cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd iau.
- Bydd rhaglenni Radio 4 Extra ar gael ar BBC Sounds. Bydd The Daily Service ar gael ar BBC Sounds ac ar radio lleol.
Ychwanegodd Matt Brittin: “Bydd llawer o’r cynnwys gwych maen nhw’n ei ddarlledu ar hyn o bryd yn dal ar gael lle mae cynulleidfaoedd eisoes yn ei fwynhau, ar iPlayer a Sounds.
“Er bod dyfalu wedi bod yn y cyfryngau, rwy’n cydnabod y bydd cadarnhau’r newyddion hwn yn anodd i gynulleidfaoedd a chydweithwyr.”
Mae rhagor o newidiadau hefyd wedi eu cyhoeddi yn BBC News heddiw, gyda mwy na chant o swyddi i ddiflannu.
Bydd Cyfarwyddwr newydd BBC News, Rachel Jupp, yn amlinellu cynlluniau i wneud rhagor o arbedion yn gynnar y flwyddyn nesaf, fel rhan o’r weledigaeth hirdymor ar gyfer BBC News.
Bydd adrannau eraill yn cadarnhau eu cynlluniau arbed cyn gynted â phosib dros y misoedd nesaf.