Myfyriwr yn newid ei ble a chyfaddef iddo lofruddio dyn ifanc o Abertawe
Mae myfyriwr prifysgol wedi newid ei ble a chyfaddef iddo lofruddio dyn ifanc o Abertawe yng ngardd eu cartref yn Filton ar gyrion Bryste.
Roedd Zack Coughlan, 23 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Jamie Collins, 21 oed yn y cartref roedden nhw'n ei rannu.
Clywodd Llys y Goron Bryste fod Coughlan wedi gwisgo dillad du, mwgwd a menig i ymosod ar Mr Collins yn ddirybudd wrth i’r myfyriwr roboteg ddychwelyd o Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) ym Mryste ychydig cyn 18:00 ar 8 Ebrill.
Fe gafodd Mr Collins ei drywanu 30 o weithiau, a bu farw o’i anafiadau.
Gadawodd Coughlan y tŷ a seiclo oddi yno ar feic Jamie Collins.
Roedd Coughlan wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth yn wreiddiol gan nodi dynladdiad.
Roedd yn cyfaddef mai fe oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, ond yn mynnu iddo golli rheolaeth ar y pryd.
Ond newidiodd ei ble brynhawn Mawrth.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Linden wrth y rheithgor: “Byddwch wedi clywed yn unig fod y diffynnydd wedi newid ei ble i euog
“Mae hynny'n golygu ei fod bellach yn pledio'n euog i'r cyhuddiad o lofruddiaeth.”
Ychwanegodd: “Rwy'n dymuno diolch ar ein rhan ni i gyd am y gwasanaeth rydych wedi ei roi yn yr achos hwn.”
Bydd Zack Coughlan, o Cleve Road, Filton, yn cael ei ddedfrydu fore Mercher.
Ar ran yr erlyniad, roedd Adam Vaitilingam KC wedi dweud wrth y rheithgor fod hwn yn achos a oedd wedi ei gynllunio'n ofalus.
Roedd Coughlan wedi gadael y beic mewn canolfan siopa gerllaw, wedi prynu dillad newydd i'w gwisgo ac wedi taflu ei ddillad a oedd â gwaed arnyn nhw i lyn gerllaw. Roedd e wedi rhoi'r dillad hynny mewn bag plastig a briciau.
Dychwelodd i'r tŷ yr oedd yn ei rannu gyda Jamie Collins yn Cleve Road tua 21:00 a rhoi pitsa yn y ffwrn cyn chwarae gemau ar-lein gyda ffrindiau.
Tua 02:00, ffoniodd Coughlan 999 gan honni ei fod newydd ddarganfod corff Mr Collins yn yr ardd gefn.
Cafodd yr ymosodiad ei gofnodi ar gamera cylch gyfyng yn y tŷ.
Roedd gan Coughlan anafiadau i'w ddwylo, a dywedodd wrth bobl ei fod wedi bod yn dringo coed ac wedi disgyn ac anafu ei hun.
Wedi'r llofruddiaeth, dywedodd Coughlan wrth ffrind yn y brifysgol ei fod eisiau cynnal gwasanaeth coffa ar gyfer Mr Collins.
Roedd y ddau yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol ac yn byw gyda'i gilydd yn y tŷ tair ystafell wely a oedd yn berchen i'r diffynnydd.
Cafodd Coughlan ei fagu yn Cork, Iwerddon cyn symud i Fryste i astudio yn 19 oed.
'Addfwyn a diymhongar'
Wrth roi teyrnged iddo wedi ei farwolaeth, dywedodd teulu Mr Collins "nad oes geiriau i ddisgrifio sut yr ydyn ni'n teimlo".
"Roedd Jamie yn ddyn ifanc disglair, caredig, addfwyn a diymhongar gyda'i fywyd cyfan o'i flaen," meddai ei deulu.
"Roedd yn edrych ymlaen at gwblhau ei daith yn y brifysgol ac yn bwriadu dod adref atom ni yn Abertawe ymhen ychydig wythnosau yn unig.
"Roedden ni'n gwybod ei fod ar fin cael dyfodol llwyddiannus iawn yn dilyn ei radd mewn peirianneg a roboteg."
Dywedodd Prifysgol Gorllewin Lloegr eu bod wedi'u "syfrdanu'n fawr" gan ei farwolaeth.
"Yn ogystal ag astudio roboteg, roedd Jamie yn aelod gweithgar o gymdeithasau myfyrwyr Prifysgol Gorllewin Lloegr," meddai.
"Bydd y brifysgol yn darparu cymorth i'r myfyrwyr a fu'n astudio gyda Jamie ac i'r staff sydd wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan ei farwolaeth."