Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol ar ôl mynd fewn i ardal y teigrod mewn parc bywyd gwyllt
Mae dyn wedi cael ei "anafu'n ddifrifol" ar ôl iddo fynd i fewn i ardal y teigrod mewn parc bywyd gwyllt yng ngogledd Lloegr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Yorkshire Wildlife Park ger Doncaster ar ôl i deigr "ymosod" ar y dyn ychydig wedi 13:30 brynhawn Sadwrn.
Mae fideos sydd wedi eu cyhoeddi ar-lein yn dangos anifail yn ymaflyd â dyn ifanc ar y gwair o fewn corlan arddangos.
Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog bod y teigr yn parhau ar y safle a bod y parc wedi'i wagio.
"Am 13:35 heddiw... fe dderbynion ni adroddiadau o ddyn yn mynd i fewn i ardal i deigrod yn Yorkshire Wildlife Park," meddai llefarydd ar ran y llu.
"Dyma'r teigr wedyn yn ymosod ar y dyn ac mae hyn wedi arwain at anafiadau difrifol.
"Mae swyddogion yn gweithio ar frys i gysylltu â theulu'r dyn a bydd dim mwy o fanylion pellach yn cael eu darparu ar hyn o bryd."
Cadarnhaodd gwasanaeth ambiwlans Swydd Efrog yn gynharach bod meddyg, dwy ambiwlans a'r ambiwlans awyr lleol eu gyrru i'r safle.
'Digwyddiad difrifol'
Un o atyniadau Yorkshire Wildlife Park yw ardal o'r enw Land of the Tigers, sy'n cynnwys llwybr sy'n gadael i ymwelwyr edmygu'r anifeiliaid o uchder.
Dywedodd y parc eu bod wedi cau'r parc yn dilyn y digwyddiad ac y bydd yr atyniad yn parhau ynghau fory.
"Gallwn gadarnhau bod digwyddiad difrifol wedi digwydd heddiw yn ardal y teigrod," meddai'r parc mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Cafodd ein gweithdrefnau brys eu gweithredu'n syth ac mae gwasanaethau brys yn bresennol ar y safle ar hyn o bryd.
"Rydyn ni'n gweithio'n agos â'r awdurdodau i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd.
"Ein prif flaenoriaeth o hyd yw lles a diogelwch ein ymwelwyr, staff ac anifeiliaid. Mae'r parc nawr ar gau a bydd yn parhau ynghau fory."
Lluniau: steven ruffles, CC BY-SA 2.0, via Wikimedia Commons/Paul Harrop, CC BY-SA 2.0 via Wikimedia Commons