'Dathlu ei bywyd hi': Ysgol yn trefnu taith gerdded er cof am fam dau ddisgybl
Bydd taith gerdded i gymuned ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ddydd Llun er cof am fam dau ddisgybl.
Fe gollodd Parker sydd ym Mlwyddyn 5 a Beauden sydd ym Mlwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn eu mam Sarah i ganser union flwyddyn yn ôl i'r wythnos hon.
Ddydd Llun, fe fydd yr ysgol gyfan yn ogystal â theulu a ffrindiau Parker a Beauden yn cymryd rhan mewn taith gerdded gan godi arian at Ganolfan Ganser Felindre.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Gavin Ashcroft, wrth Newyddion S4C: "Ma' hi wedi bod yn flwyddyn anodd iawn iddyn nhw. Ma' fe wedi rhoi rywfaint o ffocws iddyn nhw ac i ddathlu bywyd eu Mam nhw mewn ffordd bositif ac i dynnu pawb at ei gilydd sydd yn mynd i allu cofio amdani hi ac i ddathlu ei bywyd hi.
"Ar y pryd, oedd Felindre yn arbennig o dda i ni fel ysgol. Na'th nhw gynnig gwasanaeth bendigedig o ran cwrdd gyda ni fel athrawon lawr yn Felindre, a mynd trwy beth oedd y cyflwr a sut i gefnogi'r meibion gore gallwn ni. Mi oedden nhw'n arbennig o dda yn helpu'r teulu.
"Fel ysgol y'n ni'n teimlo bod angen talu rhywbeth yn ôl i ddiolch iddyn nhw ac i godi ymwybyddiaeth i deuluoedd eraill hefyd bod 'na wasanaeth allan yna a bo' nhw yna i helpu teuluoedd pan ma' nhw'n mynd trwy'r gwewyr yma."
Mae Mr Ashcroft yn cydnabod fod yna adnoddau ar-lein ar gyfer athrawon ac ysgolion i gynnig cymorth i ddisgyblion sydd wedi eu heffeithio gan ganser. Ond mae'n dweud fod yr adnoddau wyneb yn wyneb yn eithaf prin.
"Be' nathon ni ffeindio fel ysgol oedd fod 'na lot o bethe ar-lein gallen ni fod wedi ffonio, lot o wybodaeth allan yna ond o ran hyfforddiant wyneb i wyneb, doedd yna ddim rhyw lawer o gwbl a dyna pam oedd Felindre mor allweddol.
"Aethon ni lawr i Felindre, siarad gyda'r nyrsys, fe wnaethon nhw rannu adnoddau gyda ni, rhannu llyfrau a bocsys er mwyn i ni weithio gyda'r plant felly oedd y gwasanaeth yna yn un gafodd ei werthfawrogi yn fawr iawn."
Mae sicrhau fod cymuned yr ysgol yn gallu dangos cefnogaeth i'r bechgyn yn ystod eu galar yn hynod o bwysig yn ôl Mr Ashcroft.
"Be sydd wedi bod yn bwysig yw fod pawb wedi bod mor agored a bod pawb yn gw'bod ac yn cydymdeimlo ond hefyd bo' pawb yn deall beth mae'r bechgyn yma yn mynd trwyddo," meddai.
"Os ydyn nhw'n cael diwrnod gwael, gellith nhw droi at unrhyw oedolyn neu unrhyw ffrind yn yr ysgol - does 'na ddim unrhyw cadw gyfrinachau, ma' pawb yn hynod agored gyda'r bechgyn a ma' hwnna wedi bod yn beth da wrth iddyn nhw ddelio gyda hwn yn ystod y flwyddyn diwethaf."
'Cymuned ysgol yn hollbwysig'
Ychwanegodd Elin Murphy, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Elusen Canser Felindre wrth Newyddion S4C: "Ma'n hynod o bwysig, er ei fod yn gyfnod anodd iawn iddyn nhw fel teulu, fi'n siŵr bod digwyddiad fel hyn yn rhoi rhyw fath o ffocws a pwrpas i'r bechgyn.
"Ma' cymuned ysgol yn hollbwysig gan bo' nhw yn darparu cefnogaeth emosiynol, sefydlogrwydd a chael teimlad o berthyn sy'n gwneud gwahaniaeth pan ma' plant a theuluoedd yn mynd trwy cyfnodau anodd.
"Fi'n hynod o ddiolchgar, ma' gweld pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi mewn ffordd mor garedig ac yn hael yn wirioneddol ysbrydoledig a ma' fe'n neud gwahaniaeth mawr i ni ac i bobl sy'n mynd trwy'r un peth â nhw ar hyn o bryd yng Nghymru."