Dyn wedi lladd saith o'i blant ei hun ac un arall yn America
Mae dyn wedi lladd saith o'i blant ei hun ac un plentyn arall yn nhalaith Louisiana yn America.
Mae'r heddlu wedi disgrifio'r hyn sydd wedi digwydd fel 'trais domestig,' ac yn ôl CBS News roedd y plant i gyd rhwng 1 ac 14 oed.
Dywedodd swyddogion bod yr achosion o saethu wedi dechrau am tua 05.00 ddydd Sul.
Yn ôl swyddogion, roedd y dyn wedi saethu menyw ar y stryd cyn mynd mewn i dŷ gerllaw a lladd yr wyth o blant.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad oedd un o'r plant gafodd eu saethuyn, yn perthy i'r saethwr.
Fe wnaeth un o'r dioddefwyr rhedeg i gartref arall a ffonio'r heddlu, tra bod plentyn arall wedi neidio o'r to, ac yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty meddai Heddlu Shreveport.
Ar ôl iddo saethu 10 o bobl fe wnaeth y dyn ffoi mewn car oedd wedi ei ddwyn.
Fe aeth yr heddlu yn syth ar ei ôl, cyn llwyddo ei ddal fe gafodd y dyn ei saethu'n farw gan swyddogion.
Mae dwy fenyw, gan gynnwys mam y plant mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae'r BBC wedi cael gwybod gan Gyfarwyddwr Cyfathrebu Maer Shreveport mai Shamar Elkins yw enw'r dyn, ac yn ôl Maer Shreveport, Tom Arceneaux mae'r sefyllfa yn un "trasig- efallai'r sefyllfa fwyaf trasig i ni erioed ei weld yn Shreveport.
"Mae gyda ni deuluoedd sydd yn brifo, swyddogion heddlu sydd yn brifo, swyddogion crwner.
"Mae hyn am effeithio ar y gymuned gyfan, felly rydyn ni i gyd yn galaru gyda'r teuluoedd yma," meddai.
Llun: Reuters