Angharad Mair wedi torri record Cymru mewn ras 10k
Mae'r cyflwynydd teledu Angharad Mair wedi torri record Cymru mewn ras 10k ar gyfer y categori menywod 65 oed.
Fe lwyddodd Angharad i redeg y ras mewn amser o 40 munud a 54 eiliad, gan dorri'r record o bron i 3 munud a 30 eiliad.
Ar ei chyfrif Instagram fe gyhoeddodd y newydd, a dywedodd ei bod hi "wrth ei bodd" gyda'r canlyniad.
Fe aeth Angharad Mair ymlaen i ddiolcj i'r trefnwyr am "ddiwrnod gwych a ras grêt".
Mae Angharad Mair yn rhedwraig brofiadol sydd wedi cynrychioli Tîm Prydain yn llwyddiannus mewn sawl pencampwriaeth yn y gorffennol.
Nid dyma'r tro cyntaf iddi dorri record wrth redeg, yn 2016, fe lwyddodd i osod record newydd ar gyfer menywod dros 55 oed wrth gwblhau Marathon Llundain mewn amser o 2.57.46.
Mae hefyd wedi cael y record Marathon Ewropeaidd am fenyw dros 55, gydag amser o 2.54.43. Yn 2023 fe wnaeth hi bron a gosod record marathon Prydeinig swyddogol i fenyw dros 60 oed. Ond fe wnaeth rhedwr arall wella'r amser o 30 eiliad.
Roedd Angharad Mair yn cymryd rhan yn y ras 10k yng Nghasnewydd fel rhan o Wŷl Marathon Casnewydd ABP ddydd Sul.
Roedd nifer o ddigwyddiadau rhedeg yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd ddydd Sul, yn cynnwys marathon, hanner marathon, rasys i blant a'r 10k, ac roedd mwy na 10,500 o bobl wedi talu i gymryd rhan yn y rasys i gyd meddai'r trefnwyr.