Cwpan Cymru: Caerdydd i herio Abertawe yn y rownd derfynol
Nos Sul bydd gêm Caerdydd yn herio Abertawe ar faes Rodney Parade yn rownd derfynol Cwpan Cymry Bute Energy.
Mae Caerdydd yn gobeithio ennill eu tlws cyntaf y tymor hwn, ac mae Abertawe yn gobeithio gallu ennill y tlws am y tro cyntaf ers 2018.
Yr Adar Gleision sydd â'r fantais wrth fynd mewn i'r gêm hon, wedi iddyn nhw guro Abertawe mewn chwe gêm yn olynol gan gynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 6-0 yn rownd yr wyth olaf Tlws Adran Genero.
Hydref 2024 oedd y tro diwethaf i'r Elyrch drechu Caerdydd pan oedd torf o dros 2,000 wedi gwylio'r ornest yn Stadiwm Swansea.com.
Mae gan Gaerdydd hanes cyfoethog yn y gystadleuaeth hon ac wedi ennill y tlws ar bum achlysur.
2016 oedd y tro cyntaf iddyn nhw wneud hynny ac maen nhw wedi ennill y cwpan am bedwar blwyddyn yn olynol.
I Abertawe, y nod yn syml yw ennill y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers wyth mlynedd.
Enillodd yr Elyrch yn erbyn Caerdydd 2-1 yn 2018, a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd y ffeinal ers hynny.
Y daith i'r rownd derfynol
Caerdydd: Met Caerdydd (5-0), Trefelin (14-0), Y Seintiau Newydd (3-0), Wrecsam (2-1).
Dechreuodd taith Caerdydd gyda buddugoliaethau cyfforddus yn erbyn Met Caerdydd a Threfelin, wrth sgorio 19 o goliau yn y ddwy gêm.
Aeth y gemau'n anoddach i'r Adar Gleision wrth iddyn nhw wynebu'r Seintiau Newydd a Wrecsam, enillwyr Prif Adran Genero eleni.
Abertawe: Aberystwyth (3-1), Llanystumdwy (10-0), Llandudno (6-0), Cwmbrân (6-0).
Dechreuodd y gystadleuaeth yn heriol i Abertawe yn erbyn Aberystwyth, cyn iddyn nhw ennill yn gyfforddus oddi cartref yn erbyn Llanystumdwy.
Parhau gwnaeth y goliau yn rownd yr wyth olaf a'r rownd gyn-derfynol wrth i'r Elyrch sgorio chwe gôl yr un yn erbyn eu gwrthwynebwyr.
Bydd rownd derfynol Cwpan Cymru Bute Energy ar gael i'w wylio ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.
