Cwpan y Byd: UEFA yn condemnio FIFA am dro pedol dros waharddiad prif sgoriwr America
Mae UEFA wedi galw penderfyniad FIFA i wyrdroi gwaharddiad chwaraewr pêl-droed America, Folarin Balogun, ar ôl iddo dderbyn cerdyn coch mewn gêm yng Nghwpan y Byd yn “ddigynsail, annealladwy ac anghyfiawn”.
Cafodd ymosodwr America, Balogun, gerdyn coch yn ystod buddugoliaeth ei dîm o 2-0 yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd 32 olaf y gystadleuaeth, yn San Francisco nos Iau.
Cafodd Balogun, prif sgoriwr America yn y gystadleuaeth, ei hel oddi ar y cae ar ôl cyflawni tacl a wnaeth achosi i bigwrn yr amddiffynnwr Tarik Muharemovic droi oddi tano.
Roedd disgwyl y byddai Balogun yn colli’r gêm nesaf, yn erbyn Gwlad Belg, ar ôl iddo dderbyn y gosb sy'n safonol i chwaraewyr sy’n derbyn cerdyn coch, sef gwaharddiad am un gêm.
Inline Tweet: https://twitter.com/balogun/status/2073493003130315076?s=20
Ond mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd corff llywodraethu’r gamp, FIFA, y byddai’r gosb honno yn cael ei gohirio am flwyddyn - gan alluogi i’r ymosodwr chwarae yn y gêm hollbwysig fore Mawrth.
“Diolch i Fifa am wneud yr hyn oedd yn iawn a gwyrdroi anghyfiawnder gwirioneddol”, meddai Arlywydd America, Donald Trump, wrth ymateb i’r penderfyniad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae CBS News yn America yn dweud bod y tro pedol wedi digwydd ar ôl i Donald Trump gysylltu â Llywydd FIFA, Gianni Infantino, ddydd Iau.
'Anghrediniaeth'
Wrth ymateb i’r penderfyniad ddydd Llun, dywedodd UEFA, y corff sydd yn llywodraethu pêl-droed yn Ewrop, bod y penderfyniad “wedi croesi llinell goch”.
“Mae pêl-droed, fel unrhyw gamp arall, yn dibynnu ar reolau, sy'n sail i gystadleuaeth deg, onest a thryloyw. Weithiau mae rheolau'n agored i ddehongliad. Yn yr achos hwn, nid ydyn nhw.
“Nid opsiwn ar sail disgresiwn yw gwaharddiad awtomatig ar gyfer o leiaf un gêm yn dilyn cerdyn coch ac nid oes angen penderfyniad corff cymwys i'w weithredu.
“Mae'n egwyddor sydd wedi'i seilio mewn rheoliadau, na ellir ei heithrio, heb sôn am yng nghanol cystadleuaeth lle mae sawl chwaraewr arall wedi bod yn yr un sefyllfa ac wedi eu gwahardd
“Pan nad yw sicrwydd rheolau bellach yn cael ei sicrhau gan ei gwarcheidwaid, mae tegwch y gêm yn y fantol a chaiff hygrededd cystadleuaeth ei danseilio.
“Rydym yn mynegi ein hanghrediniaeth at benderfyniad mor ddigynsail, annealladwy ac anghyfiawn.”
Mae Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Belg wedi dweud eu bod wedi’u “syfrdanu” gan y penderfyniad ac yn “ymchwilio i bob opsiwn bosib”.