Blocâd gan America ar borthladdoedd Iran yn dod i rym
Mae’r blocâd gan America ar borthladdoedd Iran wedi dod i rym, gydag Iran yn rhybuddio y gallai arwain at “sgil effeithiau eang i weddill y byd.”
Daeth blocâd Donald Trump i rym am 15.00 GMT ddydd Llun. Bydd y blocâd yn atal tanceri rhag cael mynediad i borthladdoedd Iran. Y gred yw y gallai arwain at brisiau olew yn codi ymhellach.
Mae Iran wedi bygwth cynnal blocâd ei hun ar danceri sy'n teithio drwy Gulfor Hormuz. Byddai gweithred fel hyn meddai Dirprwy Arlywydd America, JD Vance yn "derfysgaeth economaidd”.
Dywedodd wrth Fox News bod Mr Trump wedi dangos bod “dau yn gallu chwarae’r gêm hon”.
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi gwrthod cefnogi blocâd Trump ar Gulfor Hormuz.
Mae Arlywydd Iran, Masoud Pezeshkian, wedi rhybuddio y gallai “bygwth Culfor Hormuz” arwain at “sgil effeithiau eang i weddill y byd”.
Mae'r culfor yn rhan o’r Gwlff ble mae sawl tancer nwy ac olew yn teithio drwyddo.
Dywedodd Mr Pezeshkian mewn galwad ffôn gydag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, fod gofynion "gormodol" yr Unol Daleithiau wedi atal cytundeb yn ystod y trafodaethau am gadoediad dros y penwythnos.
"Bydd Iran yn parhau â'r trafodaethau o fewn fframwaith cyfraith ryngwladol yn unig," meddai yn ôl cyfryngau gwladol Iran.
Yn ôl adroddiad mae Pacistan wedi cynnig cynnal trafodaethau yn Islamabad yn y dyddiau nesaf. Nhw wnaeth gynnal y trafodaethau cychwynnol rhwng y ddwy wlad.
Fe fydd trafodaethau am gadoediad hefyd yn cael eu cynnal ddydd Mawrth rhwng Israel a Libanus yn Washington.
Mae lluoedd Israel wedi cynnal ymgyrch filwrol yn y wlad yn erbyn y grŵp Hezbollah. Ers dechrau'r rhyfel mae 2,000 o bobl yn Libanus wedi’u lladd.
(Prif lun: X/US Central Command)
