Dim cefnogaeth i blocâd Trump ar Hormuz gan Starmer

Donald Trump

Mae Syr Keir Starmer wedi gwrthod cefnogi blocâd Trump ar Gulfor Hormuz.

Mae Arlywydd America wedi bygwth atal tanceri rhag cael mynediad i neu adael y culfor olew a nwy. Y gred yw y bydd hyn yn codi prisiau olew ymhellach.

Dydd Llun bydd aelodau seneddol yn dychwelyd i San Steffan ond does 'na dal ddim datrysiad i'r rhyfel yn y Dwyrain Canol.

Fe ddaeth Iran a'r Unol Daleithiau i gadoediad yr wythnos diwethaf oedd i fod i bara pythefnos. Ond mae'r cadoediad hwnnw yn fregus iawn.

Fe gyhoeddodd Donald Trump y blocâd ar longau ar ôl i drafodaethau heddwch ddirwyn i ben heb gytundeb**,** gyda'r ddwy ochr yn beio ei gilydd.

Ar y cyfrwng cymdeithasol Truth Social fe ddywedodd Trump y byddai "gwledydd eraill yn rhan o'r blocâd". Ond fydd Prydain ddim yn un ohonyn nhw.

Dywedodd llefarydd ar gyfer Llywodraeth y DU bod Prydain yn "gweithio ar frys gyda Ffrainc a phartneriaid eraill i roi cynghrair eang at ei gilydd er mwyn amddiffyn rhyddid morwriaeth".

Bydd Prydain yn cynnal trafodaethau pellach am ailagor y culfor gyda gwledydd eraill yr wythnos hon.

Mae disgwyl i Starmer drafod pwysau costau byw gyda phobl leol pan fydd yn ymweld â Manceinion ddydd Llun.

Hefyd bydd y canghellor Rachel Reeves yn teithio i Washington ar gyfer cyfarfodydd gyda'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yr wythnos hon. Sefydliad ariannol yw hwn sy'n rhan o'r Cenhedloedd Unedig gyda'r nod o hybu cydweithio ariannol byd-eang.

Mae'r canghellor wedi rhybuddio y bydd "pris i'w dalu i deuluoedd a busnesau Prydain yn sgil y rhyfel yn Iran".

Llun: Alastair Grant/PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.