Undeb Rygbi Cymru yn cynnal cyfarfod cyffredinol eithriadol

Richard Collier-Keywood

Mae disgwyl i Undeb Rygbi Cymru gynnal cyfarfod cyffredinol eithriadol yn Stadiwm Principality ddydd Llun.

Daw hyn ar ôl i Undeb Ardal Morgannwg Ganol sicrhau’r 10% o gefnogaeth sy’n angenrheidiol gan glybiau Cymru i alw'r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol.

Roedden nhw wedi galw am bleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd yr undeb, Richard Collier-Keywood (uchod), a chadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB), Malcolm Wall.

Yn sgil hynny, fe gyhoeddodd Richard Collier-Keywood a Malcolm Wall eu bod nhw’n bwriadu camu o’r neilltu.

Mae Mr Collier-Keywood wedi bod yn y swydd ers 2023, ond bydd yn gadael ar 16 Gorffennaf ar ôl penderfynu peidio â cheisio am ail dymor.

Mae Marianne Okland eisoes wedi cymryd swydd Malcolm Wall am gyfnod dros dro.

Ar ôl hynny fe ysgrifennodd Undeb Ardal Morgannwg Ganol at glybiau yn datgan y dylid canslo'r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol.

Ond fe wrthododd Undeb Rygbi Cymru'r galwadau i ganslo'r cyfarfod, gan ddweud bod rhwymedigaethau cyfreithiol yn golygu bod rhaid iddo fynd yn ei flaen.

Mae disgwyl i’r cyfarfod gynnwys cyflwyniad gan Undeb Rygbi Cymru am "ddyfodol rygbi yng Nghymru" ac yna trafodaeth agored.

Daw’r anghydfod rhwng y clybiau ac Undeb Rygbi Cymru ar ôl penderfyniad yr undeb i gwtogi ar nifer y rhanbarthau o bedwar i dri erbyn haf y flwyddyn nesaf.

Mae pryderon ymysg cefnogwyr y Gweilch y bydd eu rhanbarth yn cael ei amsugno gan Gaerdydd os bydd eu perchnogion, Y11, yn cymryd rheolaeth dros ranbarth y brifddinas hefyd.

Mae Undeb Ardal Morgannwg Ganol wedi’i leoli o fewn rhanbarth y Gweilch.

Llun: Richard Collier-Keywood gan Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.