‘Cam pwysig’ ymlaen ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn

Llun Rolls Royce

Mae’r cynlluniau ar gyfer y gorsafoedd niwclear bach cyntaf ar Ynys Môn wedi cymryd “cam pwysig ymlaen”, meddai’r cwmni sy’n bwriadu eu hadeiladu.

Dywedodd Rolls-Royce ddydd Llun eu bod wedi arwyddo cytundeb â chwmni Great British Energy i adeiladu tri adweithydd modiwlaidd bach (SMR) ar y safle.

Mae hyn yn golygu y bydd paratoadau’n dechrau ar gyfer y gwaith adeiladu ar safle ’r Wylfa, meddai’r cwmni.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau yn 2024 y byddai gorsaf ynni niwclear newydd yn cael ei hadeiladu ar safle atomfa'r Wylfa yn Ynys Môn.

Dywedodd y llywodraeth bryd hynny y byddai 3,050 o bobl yn gweithio ar y safle wrth adeiladu tri adweithydd modiwlaidd bach (SMR). Fe ddywedodd y llywodraeth hefyd y byddai yna hyd at 900 o swyddi llawn amser hir-dymor. 

Bydd y datblygiad yn llai na’r atomfa wreiddiol.

'Carreg filltir'

Dywedodd Tufan Erginbilgic, Prif Weithredwr Rolls-Royce, ei fod yn “garreg filltir hollbwysig i Rolls-Royce SMR wrth i’r Llywodraeth geisio gwireddu ei huchelgais o ‘oes aur’ newydd i ynni niwclear”.

“Mae’n bleidlais o hyder yn ein galluoedd niwclear unigryw ac yn dystiolaeth bellach bod y dewisiadau strategol rydyn ni wedi’u gwneud wrth drawsnewid Rolls-Royce yn dwyn ffrwyth," meddai.

“Mae hefyd yn rhoi sicrwydd cytundebol hollbwysig yn ein marchnad ddomestig, a fydd yn agor y drws i ddefnyddio adweithyddion Rolls-Royce SMR yn fyd-eang.”

Fe wnaeth arolygwyr cynllunio a benodwyd gan lywodraeth y DU argymell y dylid gwrthod cynllun am ail atomfa ar raddfa fawr yn y Wylfa yn 2019.

Roedden nhw’n rhybuddio am ei effaith ar fioamrywiaeth, yr economi leol, stoc tai a'r iaith Gymraeg.

Ond nid dyna a arweiniodd yn y pen draw at atal y prosiect, gyda chwmni Hitachi yn rhoi gwybod nad oedden nhw am fwrw ymlaen â’r cynllun ym mis Medi 2020.

Y nod yw y bydd yr adweithyddion bach ar safle’r Wylfa yn cynhyrchu 470MW o ynni carbon isel – digon i bweru miliwn o gartrefi am 60 mlynedd, meddai'r llywodraeth.

Bydd yr orsaf yn cael ei hadeiladu gyda buddsoddiad o £2.5 biliwn gan Lywodraeth y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.