Cwymp yn y niferoedd sy'n mynd i apwyntiadau sgrinio’r fron

ITV Cymru
itv.jpg

Mae ystadegau newydd gan yr elusen Breast Cancer Now yn awgrymu bod nifer y menywod sy’n mynd i apwyntiadau sgrinio’r fron yng Nghymru wedi disgyn yn is na’r targed hanfodol, sef 70%.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, dim ond 68.5% o fenywod cymwys a aeth i'w hapwyntiadau mamogram. Mae hyn yn golygu bod y rhaglen wedi methu ei tharged sylfaenol, gan godi pryderon difrifol am ddiagnosis cynnar yn y wlad.

Mae mamogram yn brawf pelydr-x ar y fron sy'n cael ei ddefnyddio i chwilio am ganser y fron, gan gynnwys canserau sy'n rhy fach i'w gweld neu eu teimlo. 

Un sy'n gwybod pa mor bwysig yw hi i fynd i apwyntiad sgrinio’r fron ydy Rosemary Eaton o Gas-gwent, Sir Fynwy.

 Cafodd ddiagnosis canser y fron ar ôl apwyntiad mamogram (sgrinio’r fron) arferol. 

"Fe es i i gasglu fy nghanlyniadau a dyna pryd ges i’r newyddion bod gen i ganser, a math ymosodol o ganser felly roedd hwnna’n anodd iawn," meddai. 

Image
Rosemary Eaton. Llun: ITV Cymru
Rosemary Eaton (Llun: ITV Cymru)

“Doeddwn i ddim wedi teimlo unrhyw beth ar fy nghorff fy hun felly doeddwn i ddim hyd yn oed wedi meddwl i ddweud wrth y teulu am gasglu'r canlyniadau, felly daeth hyn fel sioc enfawr." 

Ar ôl iddi brofi pwysigrwydd mynd i apwyntiadau sgrinio’r fron, mae Rosemary Eaton yn ddiolchgar ac yn argymell i bawb wneud hynny. 

"Dw i mor falch es i i’r apwyntiad, os na fyddwn i wedi gwneud hynny, gallai'r canlyniad fod yn wahanol iawn.” meddai.  

Dealltwriaeth 

Gyda’r niferoedd sydd yn cael mamogram yn disgyn, mae rhai arbenigwr yn poeni mai diffyg dealltwriaeth am y driniaeth ydy’r broblem.

Mae Melanie Sturtevant o elusen Breast Cancer Now, yn teimlo bod angen gwneud mwy i wella dealltwriaeth ynghylch sgrinio’r fron yng Nghymru. 

"Mae'n bosibl nad yw pobl yn deall bod sgrinio'r fron yn bwysig, neu efallai fod ganddynt bryderon am yr hyn sy’n digwydd yn ystod y broses sgrinio, neu’n poeni y bydd yn anghyfforddus neu’n boenus. 

“Mae'n bosibl hefyd nad yw’r apwyntiadau mor gyfleus neu hygyrch ag y mae angen iddyn nhw fod." meddai. 

Image
Llun: ITV Cymru

"Rydym yn gwybod bod staff y GIG yng Nghymru yn gweithio’n eithriadol o galed i sgrinio cynifer o fenywod ag y gallant, a thrin canser y fron, ond rwy’n credu bod y ffigurau hyn yn dangos bod angen gwneud mwy."

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dweud eu bod yn gweithio'n galed i sicrhau fod cynifer a phosibl yn cael eu sgrinio.  

Dywedodd Plaid Cymru, Reform UK a’r Blaid Werdd y byddent yn cyflwyno cynlluniau canser cenedlaethol, tra bod Ceidwadwyr Cymru eisiau creu cyllid ar gyfer triniaethau canser. 

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud bod angen defnyddio ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i dargedu fwy o bobl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.