Angen i Gymru fod ar eu gorau yn erbyn Albania, medd Rhian Wilkinson

Llun: CBD Cymru
Rhian Wilkinson

Mae prif hyfforddwr Cymru Rhian Wilkinson wedi dweud fod angen i'w thîm "fod ar eu gorau" yn erbyn Albania yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd os ydyn nhw i barhau ar frig y grŵp. 

Bydd Cymru yn wynebu Albania ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Fawrth cyn teithio i Elbasan i'w hwynebu oddi cartref ddydd Sadwrn.

Fe ddechreuodd Cymru'r ymgyrch yn bositif fis diwethaf, gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec a buddugoliaeth gartref yn erbyn Montenegro, gan olygu eu bod nhw ar frig grŵp B1 ar wahaniaeth goliau. 

Dywedodd Wilkinson mai'r targed yr wythnos hon ydi dwy fuddugoliaeth. 

"Rydym ni'n anelu at ennill y grŵp, dyna'r nod," meddai.

"Dwi'n meddwl fod gan Albania sawl chwaraewr arbennig ac felly ar unrhyw ddiwrnod, os nad ydyn ni ar ein gorau, fe fyddwn ni'n cael ein cosbi. 

"Ar bapur, dwi'n meddwl mai ni ydy'r ffefrynnau yn y gemau hyn, ond mae rhaid i ni fod ar ein gorau."

Mae Albania y rhif 71 yn rhestr detholion y byd, 40 safle yn is na Chymru. 

Fe wnaethon nhw golli 5-1 gartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec fis diwethaf, ond fe gawson nhw fuddugoliaeth yn erbyn Montenegro yng ngêm gyntaf yr ymgyrch. 

Buddugoliaeth o 6-1 dros Montenegro yn Llanelli fis diwethaf oedd llwyddiant cystadleuol cyntaf Cymru ers iddyn nhw guro Gweriniaeth Iwerddon ym mis Rhagfyr 2024 i hawlio'u lle yn Euro 2025.

'Cam ymlaen'

Yn ôl capten Cymru, Angharad James, mae angen sicrhau dwy fuddugoliaeth yn erbyn Albania: "Dwi'n credu mai'r chwe phwynt, dyna beth ni'n mynd ati am y ddau gêm nesaf.

"Ma' rhaid ni bod yn bwysig bod ni'n rhoi siwt gymaint o parch iddyn nhw 'fyd achos ma' nhw'n tîm dda yn enwedig yn yr asgellwyr yn y tîm. Felly, ie ma' rhaid ni fod ar ein gêm ni.

"By'n ni'n rhoi siwt cymaint mewn i'r gêm ni 'di paratoi nawr yr wythnos 'ma a ni'n gwybod beth i ddisgwyl. Felly os ni'n gallu gwneud y gêm plan y ffordd ni wedi ei paratoi, bydd y gêm yn un dda."

Ychwanegodd Rhian Wilkinson: "Nid yw pedwar pwynt o'r ddwy gêm gyntaf yn ganlyniadau gwael o gwbl, rydym ni'n falch iawn o hynny. 

"Ond dw i'n meddwl bod yna gam ymlaen dw i'n ei ddisgwyl gan y tîm a'n safonau ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.